– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Grŵp 4 yw’r grŵp nesaf o welliannau, sy’n ymwneud â chludo rhwng darparwyr. Gwelliant 12 yw’r prif welliant, yr unig welliant. Rydw i’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 12 wedi cael ei ailgyflwyno o Gyfnod 2. Mae'n hanfodol fod Gweinidogion o dan rwymedigaeth i ddarparu'r cynnig gofal plant yn rhydd o rwystrau posibl. Yn ystod Cyfnod 1, daeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymwybodol o bryderon nifer o sefydliadau ynglŷn â symud plant rhwng safleoedd sy'n darparu'r cynnig a safleoedd sy'n darparu addysg y blynyddoedd cynnar. Mae Estyn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi sylweddoli ei bod hi'n bwysig ymchwilio i drefniadau cludo plant, a gwneud peth gwaith mewn partneriaeth mewn rhannau o Gymru. Eto, mae Estyn wedi cyfaddef nad oeddent yn arsylwi ar symud plant o un safle i'r llall, a dangosodd tystiolaeth y Gweinidog yng Nghyfnod 1 ddarlun tameidiog ledled Cymru mewn perthynas â chludo plant. Naill ai bod rhieni'n gwneud trefniadau i gludo plant eu hunain neu roedd rhai darparwyr gofal plant yn dod o hyd i ffyrdd o gysylltu â lleoliadau gwahanol.
Hefyd nododd y Gweinidog ei hun y dylid canolbwyntio yn y dyfodol ar gynyddu cydleoli a chydweithio mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir. Yng Nghyfnod 2, cadarnhaodd ei safbwynt drwy honni ei fod am gynyddu'n sylweddol y gyfran o ofal plant a ddarperir mewn safleoedd wedi'u cydleoli, ac eto gwrthododd y gwelliant ar y sail nad oedd angen gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r mater. Mae'n braf fod y Gweinidog wedi cadarnhau cwestiynau ymchwil ychwanegol ar werthuso blwyddyn 2 y cynlluniau peilot er mwyn archwilio'r mater ymhellach, yn ogystal ag addo ystyried cludiant gyda'r gwerthusiad cenedlaethol o'r gwaith ar gyflwyno'r cynnig. Fodd bynnag, credwn nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig oherwydd yr argymhelliad a amlinellir yng ngwerthusiad y flwyddyn gyntaf—yn benodol, mae gwerthusiad blwyddyn 1 yn argymell bod angen ystyried ymhellach yr aliniad rhwng darparu gofal plant a darparu meithrinfeydd cyfnod sylfaen. Gallai hyn gynnwys cludiant i ac o leoliadau. Argymhellir hefyd y gallai fod angen perthynas waith agosach rhwng meithrinfeydd cyfnod sylfaen a darparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig.
Fel y cyfryw, mae'n bwysig fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i oruchwylio'r argymhellion hyn er mwyn atal rhwystrau pellach i rieni rhag gallu manteisio ar y cynnig gofal plant. Felly, gofynnwn i'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn.
Y Gweinidog, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Wrth agor, credaf ei bod hi'n bwysig atgoffa ein hunain nad yw hyn yn rhywbeth newydd; nid yw'n codi o ganlyniad i'r cynnig. Nid yw'n anghyffredin bellach—ac rwyf fi'n ei wneud, fel rhiant—i gael addysg a gofal plant mewn gwahanol leoedd ac i wneud trefniadau o ran cludiant. Nid yw'r angen i gludo plant yn rhywbeth sy'n codi ym mhob lleoliad, fodd bynnag, neu ym mhob rhan o Gymru. Ond mae'n nodwedd o'r gwasanaethau a ddarperir mewn rhai lleoliadau, ac yn rhannol, mae'n codi o ganlyniad i hanes y sector a phwysau'r farchnad. Mae darparwyr gofal plant weithiau'n ymateb i'r hyn y mae rhieni'n gofyn amdano. Mae'n bwysig cofio efallai y bydd rhieni weithiau eisiau neu angen defnyddio mwy nag un darparwr ar gyfer gwahanol rannau o'r cynnig neu rannau gwahanol o ofal plant. Meddyliwch am rieni sy'n gweithio, er enghraifft, shifftiau hwyr neu gynnar, neu hyd yn oed ar benwythnosau. Felly, mae'n bwysig inni ymrwymo i sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y sector ac yn y cynnig i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd.
Ond edrychwch, gadewch imi ei gwneud yn glir fy mod wedi dweud ar hyd yr amser y byddaf yn rhoi camau ar waith lle bynnag y gallaf i sicrhau bod y cynnig hwn mor ddi-dor â phosibl—rwy'n dweud hynny eto heddiw—er budd rhieni a phlant. Nawr, fel y dywedais yn ystod Cyfnod 2, nid wyf yn meddwl mai gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i leihau effaith cludo plant rhwng darparwyr ar wyneb y Bil yw'r ffordd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae'n aml yn codi o ganlyniad i amgylchiadau teuluol penodol neu amgylchiadau lleol, sydd y tu allan i gylch gwaith a phŵer y Llywodraeth. Ond ar gais yr Aelodau, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ychwanegu cwestiynau ymchwil sy'n ymwneud yn benodol â chludiant at y gwerthusiad annibynnol o flwyddyn 2, ac rwy'n gobeithio—. Janet, gallaf eich gweld yn nodio eich pen. Rwy'n gobeithio y byddwch yn croesawu hynny. A byddaf yn ystyried hyn eto fel rhan o'r adolygiad o'r broses o gyflwyno'r cynllun yn genedlaethol yn ogystal.
Bydd gwerthuso blwyddyn 2 o weithrediad cynnar y cynllun yn cynnwys cyfweliadau manwl ac arolwg cyfrifiad ar-lein o rieni a darparwyr, a byddwn yn gofyn i rieni a ydynt yn cael problemau o ran manteisio ar y cynnig sy'n ymwneud â chludiant neu ofal cofleidiol, a byddwn yn gofyn i rieni a ydynt yn teimlo bod unrhyw gludiant neu ofal cofleidiol y mae eu plentyn yn ei gael yn effeithio'n gadarnhaol neu'n negyddol, a buaswn yn dweud—oherwydd rwyf wedi ymweld â llawer o'r lleoliadau hyn, fod rhai ohonynt lle y cânt eu cydleoli, neu lle maent yn symud rhwng lleoliadau—ac i rai o'r rhieni, dyma'n union y maent ei eisiau. Felly, ni ddylem geisio cael gwared ar amrywiaeth. Ond credaf fod cael mwy o gydleoli yn darparu cynnig llawer mwy di-dor. Nawr, gofynnir i ddarparwyr yn yr arolwg hefyd ynglŷn â'r galw am ddarpariaeth, gan gynnwys cludiant a gofal cofleidiol, unrhyw heriau a allai fod ganddynt mewn perthynas â darparu hyn, a'u canfyddiad ynglŷn ag a yw hyn wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y plant yn eu gofal.
Nawr, fel y dywedais, rwy'n llawn sylweddoli nad yw'r sefyllfa hon wedi codi dros nos. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd. Yn rhannol, mae'n deillio o'n hymagwedd tuag at addysg a gofal plant yn hanesyddol, ac oherwydd nad yw addysg gynnar ond ar gael mewn lleoliadau penodol mewn rhai rhannau o Gymru. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau wedi'i drafod ac yn awyddus iawn i fynd i'r afael ag ef.
Felly, dosbarthwyd canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ym mis Medi, yn dweud yn glir yr hoffem weld mwy o hyblygrwydd yn y trefniadau darparu addysg gynnar. Os caniatawn i ragor o ddarparwyr gofal plant gynnig hyn, dylai gynyddu'r dewisiadau ar gyfer darpariaeth un safle, sef yn union yr hyn rydych chi'n ceisio ei gyflawni yma, fel finnau. Ac ochr yn ochr â hyn, ym mis Gorffennaf, cyhoeddais £60 miliwn ar gyfer rhaglen grant cyfalaf dros y tair blynedd hyd at 2021, ac un o brif ddibenion y cyllid hwn yw hwyluso a chefnogi cydleoli'r ddarpariaeth addysg gynnar a gofal plant lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn unol â'n hymrwymiad yn 'Ffyniant i Bawb' i gyflwyno model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, i ddarparu gwasanaethau estynedig gyda gofal plant, cymorth rhianta, dysgu fel teulu, mynediad cymunedol at gyfleusterau wedi'i adeiladu o gwmpas y diwrnod ysgol. I'r cyfeiriad hwnnw yr ydym yn teithio. A byddaf yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda'r pwyllgor am ganlyniad y rhaglen grant honno yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Drwy ganllawiau, rhannu arferion da, a defnyddio'r ysgogiadau ariannol sydd gennym at ein defnydd gyda phethau fel y gronfa gyfalaf, rydym yn annog awdurdodau lleol a darparwyr i feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gallent ddarparu'r cynnig. Ceir llawer o fodelau da. Yn wir, rwyf wedi cynnig i aelodau'r pwyllgor fy mod yn nodi'r rheini iddynt a hyd yn oed trefnu iddynt i fynd i'w gweld. Nawr, yng ngoleuni'r sylwadau hynny a wneuthum ar fonitro effaith cludo plant fel rhan o'r gwaith o werthuso blwyddyn 2, ymagwedd fwy strategol tuag at leihau'r angen am gludiant rhwng lleoliadau, i fwy o gydleoli, atebion mwy arloesol, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 12, a gofynnaf i'r Aelodau eraill wneud yr un peth.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn cynhesu at y syniad mai cydleoli ac i ryw raddau, mai cludiant gwell yw'r ffordd ymlaen, ond fel rhan o'r ymchwil y dywedwch eich bod yn mynd i'w gyflawni, a gaf fi ofyn i chi edrych ar dystiolaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a gasglwyd gan nifer o famau'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth. Roeddent yn glir iawn eu barn eu bod yn ei chael hi'n anodd bellach—y rhai a allai fanteisio ar y cynllun gofal plant mewn gwirionedd—roeddent yn ei chael hi'n anodd iawn symud rhwng darparwyr. Felly, credaf fod yna broblem gyda hynny, a hoffwn ailadrodd y pryderon rydym wedi'u lleisio a gofyn i chi ddangos rhywfaint o barodrwydd mewn gwirionedd i'n cefnogi yn awr ar y gwelliant hwn.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 12. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symud i bleidlais electronig, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 12.