– Senedd Cymru am 5:59 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â ffioedd ychwanegol a chyfraddau talu. Gwelliant 13 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad iddo ac i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Yn ystod Cyfnod 2 o drafodion y Bil, gwnaethom dynnu sylw at anghysondebau rhwng nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil i leihau rhwystrau i gyflogaeth drwy'r cynnig gofal plant a natur dechnegol y Bil. Gwelir hyn ar ei fwyaf amlwg yn y taliadau ychwanegol am fyrbrydau a nwyddau traul, y credwn y byddant yn dal i fod yn rhwystr ychwanegol i rieni, yn enwedig rhieni ar incwm isel, rhag gallu manteisio'n llawn ar y cynnig. Yn y pen draw, mae hyn mewn gwirionedd yn mynd yn groes i brif amcanion y Bil, fel y cânt eu hamlinellu yn y memorandwm esboniadol, felly rydym wedi ailgyflwyno gwelliannau 13 a 21. Nodaf unwaith eto fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd peilot yn caniatáu i ddarparwyr gofal plant godi taliadau ar rieni o hyd at £37.50 yr wythnos, sef cyfanswm o £7.50 y diwrnod, yn seiliedig ar gost tri phryd bwyd y dydd. Felly, i rieni sy'n manteisio ar y cynnig llawn, byddai hyn yn golygu dod o hyd i £1,800 ychwanegol y flwyddyn. Gweithwyr Cymru sy'n cael y cyflogau isaf yn y DU, a hefyd incwm eithriadol o fach sydd gan y rhai sy'n cael budd-daliadau ac sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n golygu bod hyn yn anfforddiadwy.
Er gwaethaf sicrwydd gan y Gweinidog yng Nghyfnod 3 y byddai rhieni sy'n manteisio ar y cynnig yn cael 15 i 20 awr yr wythnos o ofal plant mewn gwirionedd, gan olygu uchafswm tâl ychwanegol o £13.25 yr wythnos, mae hyn yn dal i fod yn £636 y flwyddyn. Felly, rydym yn parhau i gefnogi safbwynt Arolygiaeth Gofal Cymru, a nododd y gallai taliadau ychwanegol wneud y cynnig yn anfforddiadwy i rai teuluoedd ar incwm isel.
Rydym hefyd wedi clywed tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg mewn un ardal beilot fod rhai darparwyr gofal plant wedi dechrau codi tâl ar rieni pan nad oeddent wedi gwneud hynny'n flaenorol. Mae gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r cynnig wedi dangos bod 15 y cant o ddarparwyr gofal plant a gafodd eu cyfweld wedi cyflwyno taliadau ychwanegol o ganlyniad i'r cynnig hwn. Yn waeth byth roedd rhai darparwyr gofal plant yr oedd eu taliadau'n uwch na'r £4.50 yr awr a ddarperir gan y cynnig wedi cyflwyno taliadau ychwanegol i wrthbwyso diffyg yn y refeniw.
Nawr, yn amlwg, rydym yn croesawu ymatebion y Gweinidog yng Nghyfnodau 2 a 3 a nododd y byddai'r canllawiau ar daliadau ychwanegol yn cael eu diwygio i gryfhau safbwynt Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol. Mae hefyd yn arwyddocaol fod y cynllun gweinyddol drafft yn cynnwys cyfeiriadau at ganllawiau newydd i awdurdodau lleol ar ffioedd ychwanegol, a nodwn ymdrechion Llywodraeth Cymru i rybuddio darparwyr i beidio â chodi ffioedd ychwanegol ar gyfer plant tair i bedair oed, gyda'r bygythiad o gael eu gwahardd o'r cynnig am fethiant i gydymffurfio. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus fod y diffiniad o 'ofal plant' y mae'r Gweinidog yn pwyso cymaint arno yn y cynllun gweinyddol drafft, a ddisgrifiwyd yn fedrus mewn mwy o fanylder gan fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC, yn cynnwys gweithgareddau o dan oruchwyliaeth mewn gwirionedd. Rydym yn dadlau felly y dylai taliadau a godir am y rhain gael eu talu'n rhan o'r cynnig. At hynny, mae'r gwerthusiad cyntaf ar gyfer gweithredwyr cynnar wedi dangos yn glir nad yw darparwyr sydd wedi cyflwyno taliadau ychwanegol yn gwybod nad yw gosod taliadau yn y modd hwn yn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'r gwerthusiad hefyd yn nodi, mewn rhai achosion, fod y taliadau ychwanegol mewn gwirionedd yn cymryd lle rhai o'r rhwystrau i fforddiadwyedd y mae'r cynnig yn anelu i'w dileu.
Er bod y cynllun gweinyddol drafft yn sôn na chaniateir gosod taliadau ychwanegol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir, mae'r taliadau atodol yn dal yn bresennol, sy'n golygu bod modd i ddarparwyr gofal plant adennill y gwahaniaeth. Ac ni ddarparir y canllawiau, sy'n golygu nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn gallu asesu a fyddai modd atal hyn rhag digwydd. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau yma heddiw i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn. Nid yn unig y byddech yn bod yn deg wrth rieni ar incwm isel sy'n ymdrechu i dalu costau gofal plant, ond byddai o gymorth i ddileu rhai o'r rhwystrau i gyflogaeth a achosir gan y cynnig, yn anffodus.
Nawr, mae gwelliant 33 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a monitro gwybodaeth sy'n ymwneud â thaliadau ychwanegol, gan gynnwys byrbrydau. Fel yr eglurwyd o dan welliant 13, gall taliadau am ddarpariaethau ychwanegol atal rhai rhieni rhag manteisio ar y cynnig a gorfod dod o hyd i hyd at £1,800 y flwyddyn pe bai gofyn iddynt dalu pris llawn am 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn. Fodd bynnag—a bydd hon yn thema sy'n rhedeg drwy'r rhan fwyaf o'r gwelliannau a gyflwynais—nid oes modd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru graffu ar, neu ddadlau ynglŷn ag unrhyw sicrwydd a roddir gan y Gweinidog yma ar gam diweddarach yn sgil y ffaith eu bod yn cael eu hepgor o'r Bil hwn. Rydym yn ailgyflwyno'r gwelliant hwn, am fod y Gweinidog, drwy ei wrthod yng Nghyfnod 2 ar sail creu baich ychwanegol ar awdurdodau lleol a darparwyr, wedi gwrthddweud ei haeriadau ei hun yng Nghyfnod 1. Yn ogystal, mae cynnwys canllawiau ar daliadau ychwanegol mewn cynllun gweinyddol drafft, yn ogystal â'r ffaith bod y Gweinidog wedi dweud y byddai'n rhoi camau ar waith os codir taliadau ychwanegol ar gyfer plant tair i bedair oed drwy wahardd darparwyr gofal plant rhag cael darparu'r cynnig, yn awgrymu y bydd rhwystrau posibl yn cael eu monitro. Felly, rhaid defnyddio trefniadau i gasglu data er mwyn ategu hyn.
Mae'r arwyddion cynnar o werthusaid Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod rhai darparwyr gofal plant wedi cyfaddef eu bod yn codi taliadau ychwanegol ers i'r cynnig gael ei gyflwyno, a chredwn yn gryf, fel y cyfryw, fod gwir angen dyletswydd i gyhoeddi gwybodaeth er mwyn sicrhau y cynhelir adolygiad cadarn. Felly, rhaid i'r Gweinidog roi cyfle i'r sefydliad hwn weld y data y bydd Llywodraeth Cymru yn anochel yn ei gasglu ar daliadau ychwanegol, yn hytrach na'i israddio'n bosibilrwydd o dan weithrediad y cynllun gweinyddol. Ac rwy'n annog yr Aelodau eto i bleidleisio gyda'ch cydwybod a phleidleisio'n unol â hynny.
Mae gwelliant 32 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a monitro'r cyfraddau fesul awr a delir am ofal plant ac elfennau cyfnod sylfaen y cynnig. Fel y caiff ei weithredu ar hyn o bryd, caiff cynnig gofal plant 30 awr yr wythnos Llywodraeth Cymru ei gynnal ar ffrwd ddeuol—addysg feithrin cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar a'r cynnig gofal plant—gydag o leiaf 10 awr yr wythnos i'w ariannu gan ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar drwy grantiau cymorth refeniw llywodraeth leol. Nawr, clywsom yn ystod Cyfnod 1 y gall lleoliad deuol greu canlyniadau anfwriadol, megis cludiant rhwng y darparwr sy'n cynnig gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar.
Fodd bynnag, testun pryder arbennig yw nad oes gwahaniaeth enfawr rhwng y cyfraddau fesul awr a delir am addysg y blynyddoedd cynnar nas cynhelir a'r cyfraddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu talu am y cynnig gofal plant, gyda'r cynnig yn darparu cryn dipyn yn fwy nag a delir tuag at addysg y blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd y cyfnod sylfaen. Mae'r cynnig yn rhoi £4.50 yr awr i ddarparwyr am ofal plant, sy'n llawer uwch na'r £1.49 i £3.50 yr awr y mae Cwlwm a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif ei fod yn cael ei gynnig i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar. Felly, mae'n amlwg y gallai'r amrywiadau hyn effeithio'n negyddol ar addysg y blynyddoedd cynnar drwy wthio darparwyr allan. Mae'r gwerthusiad wedi gweld hyn yn digwydd yn y camau peilot. Gallai amrywiadau o'r fath effeithio'n negyddol ar addysg y blynyddoedd cynnar—rhywbeth a gyfaddefodd y Gweinidog yng Nghyfnod 1 mewn gwirionedd. Felly, drwy wahaniaeth o'r fath yn y taliadau, nododd y CLlLC hefyd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pryderon eisoes wedi'u mynegi mewn ardaloedd peilot y gallai addysg y blynyddoedd cynnar gael ei gwthio allan oherwydd elfen gofal plant y cynnig hwn.
Rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant hwn fel nad yw haeriad y Gweinidog y byddai'n rhy feichus ar Weinidogion Cymru yn gorbwyso pwysigrwydd craffu ar effaith y cynnig ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen. Rydym yn ymwybodol hefyd o addewid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghyfnod 1, ond rydym yn edrych yn ofalus ar yr effaith bosibl ar ddarpariaeth y cyfnod sylfaen, gan gynnwys materion strwythurol ac ariannol a allai effeithio ar gyflawniad effeithiol ac ansawdd y ddarpariaeth. Rydym yn dal i ddadlau bod cyhoeddi cyfraddau fesul awr yn rhan bwysig o'r gwerthusiad hwn. Diolch.
Y Gweinidog i gyfrannu—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Gadewch imi ddweud rhai pethau pwysig ar y cychwyn. Yn gyntaf oll, o ran y gyfradd o £4.50 yr awr, roedd y rhan fwyaf o'r darparwyr yn ystyried honno'n gyfradd yr awr ddigonol a phriodol pan ddaethom at hyn. Mewn gwirionedd, mae'r flwyddyn gyntaf wedi dangos bod darparwyr yn ei hystyried yn gyfradd briodol ar gyfer darparu gofal plant ac un sy'n fasnachol hyfyw.
Nawr, rydym wedi edrych ar yr opsiwn o ariannu darparwyr ar gyfradd uwch i wneud iawn am rai o'r taliadau ychwanegol, ond gadewch inni fod yn onest yma, rydym yn wynebu problemau a chwestiynau ar unwaith, o fewn yr amlen gyllido, sydd naill ai'n cyfyngu'r cynnig i lai o rieni neu i lai o amser—dyna'r dewis sydd i'w wneud. Ein bwriad, wrth lunio'r cynnig, oedd creu cynnig gofal plant sy'n cynnig cymaint o ofal plant ag y bo modd i gymaint o rieni ag y bo modd o fewn yr amlen gyllido sydd ar gael, a phe bawn i'n gallu ysgwyd y goeden arian a chael yr £800 miliwn y dylem fod wedi'i gael dros y degawd diwethaf, efallai y byddai gennym fwy i'w wario ar hyn, a gallem wneud mwy eto hyd yn oed, a gallem ymdrin â'r awgrymiadau cynharach gan Siân Gwenllian, ac ati. Gallem wneud y pethau hynny, ond nid oes gennym arian o'r fath.
Felly, nodwn fod nifer o'r gwelliannau hyn, neu rai tebyg, wedi'u cyflwyno yn ystod Cyfnod 2. Mae gwelliant 13 a gwelliant canlyniadol 21 yn ymwneud ag eithrio rhieni plant a allai fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhag talu taliadau ychwanegol. Credaf fod gennym fesurau digonol ar waith eisoes i ddiogelu rhieni rhag taliadau afresymol, a buaswn yn dweud bod hynny'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd gyda'r cynnig yn Lloegr. Felly, rydym wedi cyhoeddi canllawiau clir iawn i ddarparwyr ynglŷn â thaliadau ychwanegol, y cyfeiriodd Janet atynt. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yn ogystal ynglŷn â beth ddylai'r uchafswm fod ar gyfer taliadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir o fewn ystod resymol, ac mae'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn Lloegr, lle na cheir uchafswm.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gryfhau ein safbwynt, gan ddysgu o'r cyfnod gweithredu cynnar mewn perthynas â thaliadau ychwanegol cyn cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol. Felly, byddwn yn dysgu, byddwn yn ei drafod gyda'r pwyllgor, gyda'r Cynulliad, gan ddysgu o ganfyddiadau'r gwerthusiad. Yma, yn ein cynigion, rhaid i'r darparwyr ystyried—rhaid iddynt ystyried—ein canllawiau ar godi tâl ychwanegol. Rydym wedi dweud, er enghraifft, fod yn rhaid i rieni gael yr opsiwn i ddarparu bocs bwyd yn hytrach na thalu am bryd o fwyd a ddarperir gan y darparwr, a chofiwch nad yw rhai darparwyr yn darparu bwyd nac yn coginio bwyd ar eu safle, ac ati. Mae'n amrywio o ddarparwr i ddarparwr.
Hefyd, dylai rhieni gael dewis peidio â thalu i'w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y safle y codir tâl amdanynt na chymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath. Ni ellir eu gorfodi i gymryd rhan a gorfod talu am hynny. Dywedwyd wrth y darparwyr yn eglur iawn nad ydynt i godi unrhyw dâl ychwanegol yr awr ar rieni plant tair a pedair oed sy'n defnyddio'r gwasanaethau o dan delerau'r cynnig. Mae hyn yn wahanol iawn ac yn llawer mwy eglur yn y canllawiau nag yn Lloegr. Os gwelir bod darparwr yn torri'r cytundeb hwn ac yn codi cyfraddau ychwanegol yr awr, byddwn yn gweithredu. Gallent gael eu gwahardd yn y pen draw rhag darparu'r cynnig gofal plant. Ac rydym wedi dweud wrth ddarparwyr hefyd, Janet, na ddylent drin rhieni sy'n cael gofal plant o dan y cynnig hwn yn wahanol mewn unrhyw fodd i rieni eraill sy'n defnyddio'u gwasanaethau. Ni ddylai darparwyr godi mwy o dâl ar rieni sy'n manteisio ar y cynnig hwn am unrhyw elfennau ychwanegol nag y maent yn ei godi ar rieni nad ydynt yn manteisio ar y cynnig.
Nawr, dylwn ddweud hefyd y dylem fod yn ofalus yn awr rhag neidio i gasgliadau ar y cam cynnar iawn hwn o weithredu'r cynnig. Mewn gwirionedd, mae nifer yr oriau o ofal plant y bydd plentyn yn elwa ohonynt o dan y cynnig yn debygol o amrywio rhwng 15 ac 20 awr yr wythnos. Yn y sefyllfa waethaf, lle mae plentyn yn elwa o'r 20 awr lawn o ofal plant bob wythnos, ni ddylai fod gofyn i riant dalu mwy na £15 yr wythnos o daliadau ychwanegol os yw darparwyr yn gweithredu'n unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'n debygol o fod yn llawer llai mewn gwirionedd, a dyna rydym yn ei glywed. Dyna'r hyn a awgrymodd y gwerthusiad ar gyfer y flwyddyn gyntaf—nid yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn codi taliadau o gwbl. Nawr, cofiwch fod hyn yn groes i'r rhieni sy'n dweud hyn wrthym yn uniongyrchol, wyneb yn wyneb, eu bod yn arbed arian oherwydd natur y gofal plant hwn a ariennir gan y Llywodraeth—eu bod £200 i £250 yr wythnos ar eu hennill oherwydd y gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth.
Nawr, byddwn yn cadw taliadau ychwanegol dan adolygiad wrth gwrs—adolygiad rheolaidd. Ond o'r gwerthusiad o weithredwyr cynnar y cynnig, gwyddom mai canran fach o ddarparwyr yn unig sy'n codi tâl am bethau ychwanegol. Pe baem yn gwrando ar y sector ei hun—er enghraifft, yr hyn a ddywedodd Cwlwm mewn ymateb i'r argymhelliad Cyfnod 1—ni ddylem fod yn dweud wrth ddarparwyr beth y gallant ac na allant ei wneud mewn perthynas â thaliadau ychwanegol. Felly, rhaid sicrhau cydbwysedd. Mae ein canllawiau'n gryf ac yn eglur iawn, ond mae dweud 'dim taliadau' wrthynt, wel, mae goblygiadau i hynny, ac ni fyddent yn cytuno i hynny.
Nawr, mewn ymateb i welliant 32, gallaf roi sicrwydd y byddwn yn cyhoeddi'r gyfradd yr awr a delir i ddarparwyr yn y cynllun gweinyddol, felly mae gennym bob bwriad o fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â hynny. Byddai gwelliant 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y taliadau ychwanegol a godir ar rieni o dan y cynnig. Nawr, edrychwch, rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus i fonitro taliadau ychwanegol wrth inni symud ymlaen, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallwn ei brofi'n ddigonol drwy ein hymarferion gwerthuso. Yn hyn o beth, buaswn yn amharod iawn i gefnogi gwelliant sy'n gosod gofynion biwrocrataidd a beichus ar Weinidogion Cymru lle nad oes unrhyw fudd i'r bobl a wasanaethir gennym drwy'r cynnig hwn. Byddai cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar daliadau ychwanegol, er enghraifft, yn dibynnu'n drwm ar y trydydd sector a thrydydd partïon i ddarparu'r wybodaeth ar gyfer yr adroddiadau, gan roi baich biwrocrataidd ar eu hysgwyddau hwy yn ogystal â ninnau, ac ni fyddai gennym unrhyw ffordd o warantu pa mor gywir na pha mor ddibynadwy fyddai'r data.
Felly, nid wyf yn barod i gefnogi'r grŵp hwn o welliannau, ar y sail ein bod yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol eisoes—yn wahanol iawn i'r cynnig yn Lloegr—er mwyn rheoli a monitro taliadau ychwanegol. Rydym eisoes yn bwriadu cyhoeddi'r gyfradd yr awr yn y cynllun gweinyddol. Mae'r gwerthusiad o'r flwyddyn gyntaf o weithredu wedi argymell canllawiau pellach i ddarparwyr er mwyn sicrhau dull cyson o godi tâl am oriau ychwanegol ar draws pob lleoliad gofal plant, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud. A byddwn hefyd yn adolygu ein strwythur codi tâl ar gyfer y cynnig cyn ei gyflwyno'n llawn yn 2020. Felly, ar y sail honno, efallai ein bod yn anghytuno ar hyn, ond buaswn yn annog yr Aelodau felly i wrthod y grŵp hwn o welliannau.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Diolch, Lywydd. Symudwch i bleidlais, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 13.
Siân Gwenllian, gwelliant 8, yn ffurfiol?
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agorwn y bleidlais, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 8.