– Senedd Cymru am 7:17 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 13 ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r ddyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth. Gwelliant 31 yw'r prif welliant a'r unig welliant ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 31 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a chymhwysedd yng Nghymru. Mae natur ddwy ffrwd y cynnig yn amlwg, gyda'r hollt rhwng y cyfnod sylfaen, y feithrinfa, addysg y blynyddoedd cynnar, wedi'i weinyddu gan yr awdurdodau lleol am o leiaf 10 awr yr wythnos, ac mae'r gofal plant a gynigir—
Mae'r un anghywir gennych chi.
Rwyf ar yr un anghywir. Mae'n ddrwg gennyf.
Yr un nesaf. Rhif 13, ie, roeddwn ar yr un cywir. Iawn.
Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd CLlLC fod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am weinyddu systemau ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar, sy'n golygu y byddai rhieni'n gorfod gwneud cais ar wahân i'w hawdurdod lleol a CThEM i allu manteisio ar y 30 awr llawn. Fodd bynnag, nodwyd gan ddarparwyr gofal plant yn ogystal ag Estyn y gallai hyn achosi dryswch mawr ymhlith rhieni.
Ar lefel genedlaethol, cadarnhaodd cynrychiolydd CThEM nad oedd unrhyw reswm o gwbl pam na allai'r ohebiaeth gynnwys yr hyn y byddai rhiant yn gymwys i'w gael, a chyfeiriodd at y ffaith y gellid diweddaru dewisiadau gofal plant i gynnwys data ar gyfer Cymru.
Rydym yn cydnabod cyfaddefiad y Gweinidog y gallai'r Bil arwain at ddryswch, ond roedd wedi sôn fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ym mhob awdurdod lleol yn yr ardaloedd peilot er mwyn gallu cyfeirio'n glir rhwng y ddwy system. Nododd ymhellach fod strategaeth gyfathrebu yn cael ei phrofi yn yr ardaloedd peilot i gyfeirio rhieni mewn perthynas â'r cynnig, yn ogystal â chymorth ychwanegol megis chredydau treth. Fel y cyfryw, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i hysbysu rhieni ynglŷn â'r cynnig ac yn darparu dewisiadau amgen os nad ydynt yn gwbl gymwys.
Mae'r gwelliant yn cwmpasu ymrwymiad y Gweinidog a bydd yn symleiddio'r cynnig i rieni fel na osodir unrhyw rwystrau pellach yn eu ffordd wrth iddynt ymgeisio. At hynny, mae gan awdurdodau lleol systemau ar waith eisoes i gyfeirio rhieni at gynnig gofal plant y cyfnod sylfaen, gan alluogi pontio esmwyth tuag at system genedlaethol. Ymhellach, mae gwerthusiad o'r gweithredwyr cynnar wedi argymell y dylid ystyried hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth. Nododd y gwerthusiad hefyd fod angen mwy o wybodaeth gliriach i helpu rhieni plant sy'n gymwys gyfrif cost gofal plant. O ganlyniad, credwn y bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth hon yn helpu i barhau cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn hyn o beth yn ogystal â chydlynu gwasanaethau gwybodaeth ar adeg cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol. Diolch.
Gweinidog.
Rwy'n ymwybodol yn wir fod amrywiaeth o heriau cyfathrebu wedi wynebu awdurdodau lleol, rhieni a darparwyr o ran y cynnig hyd yma, ac rwyf wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad gwerthuso ar gyfer blwyddyn gyntaf y gweithredwyr cynnar, sy'n cynnwys llawer o'r pwyntiau hyn, yn ofalus iawn.
Felly, byddwn yn lansio ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar y cynnig cyn ei fod ar gael yn genedlaethol yn 2020. Ochr yn ochr â hyn, fel y mae Janet wedi dweud, byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd i sicrhau bod manylion am y cynnig, a chymorth gofal plant ehangach arall, ar gael i rieni yn ôl yr angen.
Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, sy'n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gyfer teuluoedd a gofalwyr gan bob awdurdod lleol. Wrth gwrs, mae'n bwysig sicrhau hefyd fod gan rieni fynediad at wybodaeth am ofal plant ar y pwynt pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch swyddi a gyrfaoedd. Felly, buom yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod y wybodaeth honno gan gynghorwyr cyflogaeth, yn ogystal â'n rhaglenni cyflogadwyedd ein hunain a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Felly, o ystyried bod yr holl waith hwn eisoes ar y gweill a bod gennym wasanaeth pwrpasol ar gyfer rhoi cyngor i deuluoedd ar eu dewisiadau gofal plant, nid wyf yn gweld bod angen inni ychwanegu dyletswyddau ychwanegol yn hyn o beth drwy gyfrwng y Bil hwn, felly ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Hoffwn symud ymlaen at y bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 31.
Gwelliant 32, Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 32.
Gwelliant 33, Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.