Pennu Targedau ar gyfer yr Economi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:12, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gan Gymru heriau economaidd strwythurol sylweddol, ac rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn iawn dros y blynyddoedd i dynnu sylw at y rhwystrau hynny i dwf. Mewn ysbryd o gyd-gydnabyddiaeth o heriau Cymru, o ran dymuniad i hynt economaidd Cymru ffynnu, beth ydych chi'n ei gredu yw'r prif wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o reoli economi Cymru dros y naw mlynedd diwethaf? Beth ydych chi'n ei gredu yw'r meysydd polisi economaidd a fyddai'n elwa fwyaf ar fwy o gydweithrediad rhwng y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru?