– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Eitem 10 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019, a galwaf ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd i gynnig y cynnig, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig hwn.
Mae Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn gweithredu gofynion y cytundeb ar safonau trapio heb greulondeb rhyngwladol rhwng y gymuned Ewropeaidd, Llywodraeth Canada a Llywodraeth Ffederasiwn Rwsia. Mae'r cytundeb yn ceisio gwella safonau lles anifeiliaid drwy wahardd y defnydd o drapiau nad ydyn nhw'n cydymffurfio â safonau trapiau di-boen. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i drapiau sy'n cydymffurfio gael eu hardystio a'u nodi o ran pwy yw'r gweithgynhyrchwyr, ac yn ei gwneud yn ofynnol i drapio gael ei wneud yn unol â'i safonau.
Mae'r UE yn llofnodwr y cytundeb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth weithredu ar lefel yr UE, felly mae'n angenrheidiol i'r rheoliadau hyn fodloni rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE. Bydd y rheoliadau yn cael effaith ar bum rhywogaeth: y mochyn daear, yr afanc, y dyfrgi, bele'r coed a'r carlwm. O'r rhain, dim ond y carlwm sy'n cael ei drapio yn eang ac yn rheolaidd yn y DU a dyma'r unig rywogaeth y defnyddir trapiau angheuol yn gyffredin ar ei chyfer. Felly, bydd canlyniad y rheoliadau hyn yn effeithio yn bennaf ar y rhai sy'n trapio'r carlwm.
Bu oedi wrth gyflwyno'r rheoliadau yn bennaf o ganlyniad i ddiffyg trapiau AIHTS addas ar gyfer y carlwm. Mae'r mater hwn bellach wedi'i ddatrys, ac mae trapiau AIHTS ar gael. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amser i weithgynhyrchwyr gynhyrchu trapiau addas ac i bobl sy'n defnyddio trapiau gael rhai newydd yn lle eu trapiau presennol, rydym wedi cynnwys darpariaeth bontio sy'n gohirio'r gweithredu ar gyfer y carlwm tan 1 Ebrill 2020. Gyda'r ddarpariaeth hon, rydym yn anfon neges glir i weithgynhyrchwyr a defnyddwyr trapiau bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio trapiau addas, ac rydym ni'n cydnabod bod angen amser i wneud hynny. Bydd y rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ardystio trapiau a gwella dyluniad trapiau, yn ogystal â gwella'r safonau y mae'n rhaid i drapiau gydymffurfio â nhw cyn y ceir eu defnyddio, gan greu meincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer lles anifeiliaid.
Bydd gweithredu'r rheoliadau hyn yn arwain at welliannau i les anifeiliaid sy'n cael eu trapio drwy gael gwared ar drapiau sydd o safon is o ran lles anifeiliaid. Rwyf yn eu cymeradwyo i'r Aelodau.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Rwyf am symud at y bleidlais. Na. Iawn. Felly—[Torri ar draws.] Rwyf angen tri Aelod i ddangos. Canwch y gloch.