Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:21, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n ddrwg gennyf na all Ysgrifennydd y Cabinet ateb, gan fy mod yn credu bod cwestiwn pwysig o dryloywder o dan sylw yma, bod y penderfyniad ynglŷn â Hendy yn wahanol iawn i'r penderfyniad a wnaeth hi ynglŷn â Rhosgylyddwr. Penderfynodd hi beidio ag ymyrryd yn yr achos hwnnw, ac felly mae gennym ni bellach fferm wynt yn cael ei chodi. Ymwelais â'r lle fy hun yr wythnos diwethaf. Mae'r dirwedd yn cael ei chreithio, a fydd yn difetha'r golygfeydd ysblennydd ar draws y bryniau. Yn Rhosgylyddwr, wrth gwrs, roedd y dirwedd a'r morlun wedi eu diogelu. Yn yr amgylchiadau hyn, onid yw hi'n briodol i'r Llywodraeth gyhoeddi'r rhesymau pam ei bod hi'n gwneud penderfyniad mewn un achos ond nid mewn un arall fel y gall pobl ddeall ar ba egwyddorion y mae'r penderfyniadau pwysig iawn hyn, sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd, yn seiliedig?