Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, caiff y llythyr penderfyniad ei gyhoeddi bob tro ac, yn amlwg, mae hynny ar gael i unrhyw un sydd eisiau ei ddarllen. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud y system gynllunio mor syml ac mor rhwydd ag y bo modd. Fe fyddwch yn ymwybodol yr wythnos diwethaf imi lansio 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10', sef argraffiad newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae hwnnw wedi'i ddiwygio'n drwyadl erbyn hyn i ystyried, mewn modd llawer mwy cyfannol, rwy'n credu, y penderfyniadau a wneir ynglŷn â'r amgylchedd adeiledig.