Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n gwybod y bu'n uchel ei gloch yn dadlau dros hyn ochr yn ochr â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg. Er y buom ni'n disgwyl penderfyniad erbyn diwedd Tachwedd, roedd hi'n angenrheidiol cael eglurhad cyfreithiol ynglŷn ag agweddau ar yr achos. Rwyf eisiau gwneud penderfyniad i gyhoeddi hyn cyn gynted â phosib, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa barhaus a'r pryder sydd wedi'i grybwyll, ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n gwneud hyn, ein bod yn sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn unol â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o ran cynal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, mae swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth ofalus i gydymffurfio â chyfarwyddeb yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan ystyried sylwadau gan yr Aelod ei hun ac aelodau eraill, y datblygwr, ac, wrth gwrs, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.