Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:16, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Fe glywaf, Gweinidog, beth yw eich rhwymedigaethau rhyngwladol, ac ni fyddai neb ar yr ochr hon i'r Siambr, rwy'n tybio, neu yn wir yn unrhyw le yn y Siambr hon yn galw arnoch i dorri rhwymedigaethau o'r fath, ond mae rhyw 300 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers ichi wneud yr ymrwymiad hwnnw ym mis Chwefror. Boed hynny yn y Barri neu yn unrhyw ran arall o Gymru, pan fydd Gweinidog yn gwneud datganiad o'r fath, siawns ei bod hi'n fanteisiol i'r Gweinidog hwnnw gyflawni cyn gynted ag y bo modd y diwydrwydd dyladwy y gallai fod ei angen yn rhan o'r penderfyniad hwnnw ac yn dod yn ôl â phenderfyniad ar yr adeg briodol. A wnewch chi roi ymateb mwy pendant o ran pryd y cawn ni ymateb gennych chi, o gofio, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, y dywedodd y Prif Weinidog yn ei lythyr wrthyf i y byddai'r penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud ym mis Tachwedd? Fel y dywedais, bu rhyw 300 o ddiwrnodau ers ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw. Faint mwy o amser mewn gwirionedd sydd ei angen arnoch chi?