Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:12, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn cytuno â chi, oherwydd nid ydym ni wedi cyflwyno'r Papur Gwyn eto; byddwn yn gwneud hynny yn y gwanwyn. Pe byddwn i wedi gwneud y gwaith modelu ac asesu effaith cyn inni ymgynghori, byddem ni wedi cael ein beirniadu am roi'r drol o flaen y ceffyl. Mae'n llawer gwell cael y 12,000 o'r ymatebion hynny yr ydym ni wedi eu cael i 'Brexit a'n tir' ar y ddau gynllun hynny yr ydym ni'n eu cyflwyno. Felly, y cynllun cydnerthedd economaidd—mae hynny ynglŷn â chynhyrchu bwyd. Mae ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein busnesau fferm yn gydnerth a chynaliadwy, yr union beth y maen nhw ei eisiau—maen nhw eisiau iddyn nhw fod yn ffyniannus. Ac o ran y cynllun nwyddau cyhoeddus, rydym ni eisiau gwobrwyo ffermwyr, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd, am yr adnoddau cyhoeddus y maen nhw'n eu cynhyrchu—yr ansawdd aer gwych hwnnw, ansawdd pridd, ansawdd dŵr, y gwaith atal llifogydd y maen nhw'n ei wneud. Felly, pan rydym ni'n cyflwyno'r Papur Gwyn yn y gwanwyn, bydd y gwaith modelu hwnnw a'r asesu effaith hwnnw wedi'u gwneud.