Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Felly, pan fydd y modelu hwnnw, pan fydd yr asesiad effaith a phan fydd yr arbrofi wedi eu gwneud, os bydd hynny yn y pen draw yn dangos bod cadw math o daliad sylfaenol yn angenrheidiol mewn gwirionedd i gyflawni rhai o'r canlyniadau yr ydych chi wedi eu rhestru, neu o leiaf i gadw ffermwyr ar y tir er mwyn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ydych chi wedi bod yn awchu i ddweud wrthym ni eich bod eisiau eu darparu—os yw'r holl dystiolaeth, ar ôl gwneud y gwaith hwnnw, yn dweud wrthych chi bod cadw'r taliad sylfaenol yn angenrheidiol i gyflawni hynny, a wnewch chi gadarnhau i'r Cynulliad heddiw mai dyna fyddwch chi'n ei wneud?