Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:18, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wel, rydym ni'n byw mewn cyfnod gwleidyddol ansicr iawn, ac mae'n debyg y gallai hyn fod y tro diwethaf y byddwn yn wynebu ein gilydd ar draws y Siambr yn rhinwedd swydd bresennol Ysgrifennydd y Cabinet, er y byddai'n ddrwg gennyf pe byddai hi'n cael ei symud. Rwyf wedi dod yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i edmygu a pharchu sut y mae hi wedi ymdrin â chryn dipyn o faterion â meddwl agored, yn gwrando ar randdeiliaid a phobl leol, yn enwedig o ran penderfyniadau ynglŷn â nitradau a hefyd y diciâu mewn gwartheg, ond mae'n rhaid imi ddweud yn ddiweddar bod yr enw da yma y mae hi wedi ei ennill wedi cael ambell i dolc oherwydd sawl penderfyniad y bu hi'n gyfrifol amdanyn nhw: un, wrth gwrs, yw'r gwaharddiad ar saethu, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gyflwyno ar dir cyhoeddus; y cyfreithiau pysgota llym ar eogiaid a sewin, a gynigiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto ar dystiolaeth amheus; ac wrth gwrs yr hyn a grybwyllais i y tro diwethaf, fferm wynt Hendy, gan wyrdroi dyfarniad Cyngor Sir Powys ac adroddiad ei harolygydd ei hun.

Mae Theresa May wedi cael ei beirniadu, yn deg, rwy'n credu, am beidio â gwrando ac mae hi wedi cael ei hun i lanastr enfawr, y bydd hi'n anodd iddi ddod allan ohono. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn edifaru am roi ei hagenda polisi o flaen buddiannau pobl leol a rhanddeiliaid lleol?