Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, os ydych chi'n cyfeirio at sefyllfa fferm wynt Hendy, yr ydych chi, fel y dywedwch chi, wedi ei grybwyll yn y Siambr, yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn bod hawliad wedi ei gyflwyno i'r Uchel Lys. Felly, ni allaf ddweud unrhyw beth ychwanegol ynglŷn â hynny. Rwy'n falch iawn gyda'r targedau ynni adnewyddadwy yr wyf i wedi eu llywio drwy'r Siambr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym ni dargedau adnewyddadwy uchelgeisiol. Rwy'n ymwybodol iawn o'm rhwymedigaethau i a rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru o ran newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu bod y targedau ynni adnewyddadwy yr ydym ni wedi eu cyflwyno—. Cawsom ddadl yr adeg hon yr wythnos diwethaf ynglŷn â rheoliadau carbon; byddaf yn cyflwyno'r cynllun cyflawni allyriadau carbon yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n falch iawn o'r pethau hynny.