Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ei ohebiaeth gynharach unwaith eto ar y mater pwysig hwn? O ran mynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau ac yn atal effaith unrhyw lygredd o unrhyw fath neu unrhyw achos yn ein basnau afonydd ledled Cymru, lle bynnag y bo hynny, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy a gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth yr wyf yn hapus i gadw llygad gofalus iawn arno, yn y dyfodol, i sicrhau y cawn ni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ni.