Llygredd yn Afonydd Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:34, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ym mis Hydref, fe wnaethom ni ohebu ynghylch llygredd yn Afon Clywedog lle mae hi'n cwrdd ag Afon Dyfrdwy ger Wrecsam. Wrth gwrs, mae achosion o lygredd penodol yn fater i Gyfoeth Naturiol Cymru. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod y drefn hunan-adrodd gan gwmnïau dŵr, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei defnyddio bellach, yn gwneud i ffwrdd â'r arolygiadau rhagweithiol yr arferai staff Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eu cynnal, a'r pryder y bydd yr adleoli presennol o swyddogion gorfodi pysgodfeydd medrus yn lleihau effeithiolrwydd diogelu pysgodfeydd tri rhanbarth y de-ddwyrain, y de-orllewin ac ardaloedd gogleddol, gan gynnwys yr Afon Hafren uchaf, ac, yn arbennig, y gwaith trawsffiniol ar ddwy ochr Afon Hafren, a chydag Afon Gwy a'i hisafonydd, sydd eto'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr?