Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r gymdeithas bysgota wedi cyfeirio cwyn at Gomisiwn yr UE yn dadlau bod symiau enfawr o slyri a thail dofednod yn cael ei daenu'n ddiwahân ar ardaloedd mawr o dir fferm, a bod y rheolau a'r canllawiau llywodraethu ynglŷn â sut y dylid gwneud hyn yn cael eu hanwybyddu'n gyson. Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith sylweddol ar ecoleg ein hafonydd. A allwch chi ein sicrhau ni y gwneir popeth i fonitro'r arfer yma, ac felly i sicrhau cyflwr ein hafonydd?