Llygredd yn Afonydd Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:33, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn. Mae'n crybwyll mater pwysig iawn. Mae unrhyw achos o lygredd yn ein hafonydd yn un achos yn ormod, am amryw o resymau, a dyna pam fod y Llywodraeth hon wedi gweithredu o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â llygredd amaethyddol. Rydym ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cadw at yr arferion gorau, ac mai'r lleiafrif sy'n gyfrifol am yr achosion yr ydym ni'n gweithredu i'w datrys. Dim ond yr wythnos hon, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig—anghofiais ei theitl am eiliad wedyn—wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach ar gyfer y grant cynhyrchu cynaliadwy, sydd er mwyn cefnogi cyflawni canlyniadau amgylcheddol, gan gynnwys llygredd amaethyddol, a rhoi cymorth i ffermwyr sy'n wynebu heriau sylweddol Brexit. Felly, dyna un peth yn unig. 

Rydym ni hefyd yn gweithio gyda—. Wrth gwrs, nid yw llygredd yn cyfeirio'n unig at slyri. Gallai ysbwriel a halogyddion eraill fod yn ein hafonydd, a dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda sefydliadau megis Cadwch Gymru'n Daclus a Groundwork Cymru i fynd i'r afael â hynny hefyd.