Newid yn yr Hinsawdd

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:40, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Fe fyddai gennyf i ddiddordeb gwybod—. Rwy'n cefnogi'r holl fater o fod yn fwy effeithlon o ran; dros gyfnod hir, rwyf wedi bod yn dweud y dylem ni fod yn dilyn egwyddorion Merton a, gyda phob eiddo newydd a godwn ni, y dylem ni yn awtomatig fod wedi rhoi gwres ffynhonnell daear ynddo neu ryw ffordd arall o allu gwneud iawn am ein hallyriadau carbon. Sut, fodd bynnag, gan ddefnyddio'r rheoliadau hyn, ydych chi'n mynd i allu cyflawni'r her anodd iawn o wella ein hallyriadau sy'n effeithio ar yr hinsawdd, ond, ar yr un pryd, sicrhau nad yw ein prisiau adeiladu tai yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth, gan fod gennym ni ormod o bobl yng Nghymru sydd â dirfawr angen tai priodol arnyn nhw?