Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw pwysig iawn ynghylch cydbwysedd, ac, yn sicr, yn fy nhrafodaethau gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai ac Adfywio—rydym ni'n cyfarfod â datblygwyr, er enghraifft, ac yn amlwg, maen nhw'n bryderus iawn y bydd unrhyw beth y byddwn ni'n ei gyflwyno yn cael effaith ar gost. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni edrych ar sut yr ydym ni'n adeiladu ein tai newydd; sut ydym ni'n ystyried datgarboneiddio; sut ydym ni'n ystyried newid yn yr hinsawdd. Byddwch yn ymwybodol inni basio rheoliadau newydd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, pryd gosodwyd targedau ar gyfer Cymru sydd wedi eu rhwymo mewn cyfraith, ac yn amlwg, mae gan dai ran fawr i'w chwarae wrth ein helpu ni i gyflawni'r targedau hynny.