Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gweld beth fydd y modelu a'r asesu effaith yn ei gyflwyno. Gan i'r cynllun taliad sylfaenol fod yn gymaint o gyfrwng aneffeithiol—ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda ffermwyr dros y misoedd diwethaf, gyda llawer ohonyn nhw'n dweud wrthyf i eu hunain nad ydyn nhw'n credu bod y cynllun taliad sylfaenol yn eu galluogi i fod yn gydnerth ac yn gynhyrchiol yn y ffordd y maen nhw eisiau bod—fe fyddwn yn synnu'n fawr pe bai hynny'n wir. Soniais yr wythnos diwethaf pan yr oeddwn i ger bron y pwyllgor y byddaf yn hyblyg iawn. Felly, gadewch inni weld beth a ddaw o'r ymgynghoriad, a beth wedyn gaiff ei gynnwys yn y Papur Gwyn cyn inni greu cam nesaf y polisi.