Gwrthfiotigau mewn Amaethyddiaeth

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:36, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lynne Neagle, am y cwestiwn yna. Yn Llywodraeth Cymru, rydym ni yn ceisio mynd i'r afael â'r bygythiad y mae ymwrthedd i gyffuriau yn ei greu i'r amgylchedd, pobl ac anifeiliaid gyda'i gilydd mewn un modd. Ar hyn o bryd dim ond data lefel uchel ar gyfer DU ynglŷn â gwerthiannau gwrthfiotig sydd gennym ni, ac mae datblygu data sector-benodol ynglŷn â defnyddio gwrthfiotigau yng Nghymru yn sicr yn flaenoriaeth ar gyfer y cynllun pum mlynedd nesaf sy'n ymdrin ag ymwrthedd i gyffuriau. Rwy'n gwybod fod gennym ni ddau bartner cyflenwi milfeddygol yn gweithio yma yng Nghymru gyda'n ffermydd i arwain y ffordd o ran sefydlu grŵp i gydlynu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar reolaeth ymwrthedd i gyffuriau. Rwy'n gwybod, am y tro cyntaf, eu bod nhw wedi cynhyrchu gwybodaeth ar ragnodi gwrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid fferm yng Nghymru, ac maen nhw'n defnyddio hynny yn awr ar gyfer meincnodi a rhannu arfer gorau.