Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae angen defnyddio llai o wrthfiotig, heb rithyn o amheuaeth, ond mae ganddo hefyd swyddogaeth effeithiol, yn amlwg, wrth ofalu am iechyd a lles anifeiliaid. Mae angen cydbwysedd. Pa ymarferion y mae Cyswllt Ffermio yn arbennig wedi eu cynnal i hybu ymwybyddiaeth ynghylch y defnydd o wrthfiotigau yn y gymuned amaethyddol? Ac os na threfnwyd ymgyrch drwy'r rhwydwaith Cyswllt Ffermio, a fyddech chi'n ystyried cychwyn ymgyrch o'r fath, oherwydd rwyf wedi sylwi'n aml pan fo pobl yn sylweddoli beth yw'r effaith a beth y gallan nhw ei wneud, maen nhw'n fwy na pharod i gymryd rhan yn y broses honno, oherwydd bod mantais gyffredinol i bawb?