Gwrthfiotigau mewn Amaethyddiaeth

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:38, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi o ran y sylw olaf yna, ac yn sicr dyna fy mhrofiad i. Mae Cyswllt Ffermio wedi blaenoriaethu defnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid mewn modd cyfrifol ac, yn hollbwysig, sut i osgoi eu gorddefnyddio. Felly, cafwyd—nid wyf yn siŵr a yw'n ymgyrch benodol, rwy'n credu ei fod yn rhan o'u gwaith bob dydd. Ond yr hyn y maen nhw wedi ei wneud yw gweithio gyda phobl fel y gallan nhw atal yr angen am wrthfiotigau ymhellach yn y dyfodol drwy atal afiechyd yn y lle cyntaf. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod y byddai peidio â rheoli ymwrthedd i gyffuriau yn cael effaith sylweddol. Fe fydden nhw'n hynod o gostus, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran ein hiechyd byd-eang a'n lles amgylcheddol, er enghraifft.