4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau y cyflwynir band eang cyflym iawn yn ehangach yn Aberconwy? OAQ53091
Ie. Wrth inni gyflwyno band eang ffibr cyflym yn barhaus, rydym wedi nodi tua 3,773 safle ar draws y rhanbarth a allai weld signal cysylltedd dan y cynllun newydd. Mae cymorth gyda chysylltedd hefyd yn parhau gydag Allwedd Band Eang Cymru a chynlluniau talebau cysylltedd cyflym iawn.
[Anghlywadwy.]—pryderon i chi ynghylch eiddo unigol ac mewn rhai achosion, rydych wedi gallu fy helpu fi. Gwn fod y ffigur o 96 y cant yn swnio'n dda iawn, mewn gwirionedd, ond os yw rhywfaint o'r 4 y cant yn eich etholaeth chi, ac maent yn byw drws nesaf i bobl sydd â'r band eang cyflym, ychydig iawn, iawn o gysur fydd yn ei roi iddynt. Roeddech chi'n bresennol mewn cymhorthfa band eang llawn iawn yn fy etholaeth i, ac fe wnaethoch gyhoeddi eich bod yn mynd i gyflwyno cam 2. Cawsom eich datganiad diweddar, ond gofynnir i mi drwy'r amser, 'Pam nad ydych yn cyflwyno'r cyfnod nesaf?' Mae'n fater o, 'Wel, mae Llywodraeth Cymru yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall.'
Mae gennyf blant ysgol sy'n methu gwneud eu gwaith cartref. Mae gen i ffermwyr sy'n methu mynd ar-lein. Mae gennyf gymunedau cyfan, mewn gwirionedd, yn rhai o'r ardaloedd mwy gwledig, ynysig sy'n credu mai myth a breuddwyd fydd iddynt gael band eang cyflym iawn. Felly, pryd ydych chi'n mynd i ddangos rhywfaint o ymrwymiad a gwneud y cyhoeddiad newydd hwnnw yn y dyfodol? Ac os na, pryd ydych chi'n mynd i gyfathrebu'n well? Gwyddom fod y cyflwyniad cyntaf yn ffars o ran gwybodaeth. Roedd yn cael ei gyflwyno, ond nid oedd pobl yn gwybod pryd na sut. Ac rwy'n teimlo y gallech wneud mwy i ymgysylltu nawr â'r bobl yn y poblogaethau hynny nad oes ganddynt fand eang ffibr cyflym o gwbl, oherwydd, ar hyn o bryd, maent yn ddigalon iawn, iawn gyda'ch Llywodraeth chi oherwydd hyn.
Iawn, wel, diolch i chi am hynny, rwy'n credu. Roedd y cyfarfod yn llawn yn wir. Eglurais yn fanwl—fel y gwneuthum yn yr holl gyfarfodydd o gwmpas Cymru y bûm ynddynt, a chredaf fy mod wedi bod i bron pob etholaeth bellach—mai'r broblem fawr yw nad ystyrir hyn fel seilwaith; mae hyn yn dal i gael ei ystyried i fod yn gaffael cynnyrch moethus. Ac felly, rhaid inni fynd drwy broses gymhleth iawn, gan gynnwys gyda Broadband Direct UK, i gael sicrwydd ynghylch cymorth gwladwriaethol ar gyfer yr hyn a wnawn. Ac, fel yr eglurais yn y cyfarfod, o na fyddai modd i fi wneud hyn. Pe bai gennyf y pŵer i'w ledaenu fel seilwaith, yna byddwn yn gwneud hynny, ond ni allwn. Rhaid inni fynd trwy'r broses gaffael, mae'n rhaid inni wneud adolygiad o'r farchnad agored, rhaid inni ganfod i ble mae'r cwmnïau masnachol yn mynd, ac yna mae'n rhaid inni gaffael. Rhaid inni weld beth y mae'r caffael yn ei ddwyn yn ôl, ac mae hynny wedi dwyn y 3,773 safle yn ôl. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o nodi'n union ble mae'r safleoedd hynny, ac wedyn byddwn yn ceisio llenwi'r bylchau ar gyfer y gweddill.
Mewn gwirionedd, ers y tro diwethaf imi siarad am hyn yn y Siambr—rwy'n cael y teimlad fy mod yn dod yn ôl i'r unfan bob tro rwy'n sefyll i wneud y cwestiynau— ers y tro diwethaf, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi cyhoeddi ffordd ymlaen ar gyfer ei rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Felly, mae'n edrych yn debyg y byddwn yn cael rhywfaint o eglurder ar hynny yn y dyfodol agos. Mae rhai problemau'n codi. Mae cap ar y costau ac, mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o'r safleoedd yr ydych yn sôn amdanynt y tu allan i'r cap cost. Felly, mae rhywfaint o waith i'w wneud, ond credaf y ceir rhywfaint o symud o gwmpas y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a fydd yn rhoi llinyn arall i'n bwa ynghylch cyrraedd y nod.
Ond, os oes gan yr Aelodau gymuned gyfan, neu bump neu chwech o dai gyda'i gilydd sydd wedi'u hynysu, yna hoffem eich gweld yn mynd ati'n rhagweithiol i ddweud wrthym amdanynt, oherwydd rydyn ni'n hapus iawn i gael ein timau ymelwa busnes allan atynt i weld a allwn gael atebion i'r cymunedau hynny. Ac mae'r atebion cymunedol hynny wedi bod yn effeithiol iawn ar draws Cymru; gallant fod yn unigryw i'r gymuned benodol, ac mae trefniadau gwahanol ar gyfer gwneud hynny. Felly, rwy'n annog yr Aelod i fynd ati'n rhagweithiol i ddweud wrthym am unrhyw glystyrau o bobl y gallwn efallai eu helpu.
Gyda'r gweddill, byddwn yn gallu dweud yn fuan iawn erbyn hyn pa safleoedd yn union. Bydd hynny'n amlwg yn nodi'r rhai nad ydynt yn ei gael hefyd, ac yna byddwn yn gallu gwneud rhywfaint o waith mwy rhagweithiol gyda nhw. Ond, gyda'r ewyllys gorau yn y byd, Dirprwy Lywydd, mae'n costio degau o filoedd o bunnoedd i fynd at rai o'r safleoedd, a bydd yn rhaid dod o hyd i atebion eraill.