Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:01, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Roedd 'A yw Cymru'n Decach?' hefyd yn crybwyll 

'Nododd astudiaeth gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru doriadau i bron hanner y gwasanaethau arbenigol ar gyfer 2016/17'.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud

'mae diffyg cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol plant a phobl ifanc yn bryder penodol'.

Pa gamau y mae arweinydd y tŷ yn eu cymryd i sicrhau y darperir cyllid digonol i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei gynnal yng Nghymru?