Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ie, rydym yn gwybod bod llawer o gam-drin domestig yn cael ei guddio. Rydym yn gwybod bod pobl nad ydynt yn dod ymlaen a bod anghysondebau o dystiolaeth drwyddi draw. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, ac mewn gwirionedd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol, sydd yn gyn-gydweithiwr y byddwch oll yn gyfarwydd ag ef, sef Jeff Cuthbert, sydd wedi cymryd yr awenau yn hyn o beth ar ran yr heddluoedd ynglŷn â'r gweithdrefnau cywir, nodi ac annog pobl i ddod ymlaen ac yna'r prosesau cywir.
Ac un o'r pethau y mae'r ymgynghorwyr cenedlaethol wedi bod yn ein cynghori arno yn eu blwyddyn gyntaf nawr yn y swydd yw gwneud yn siŵr bod gennym gysondeb yn gyffredinol yng Nghymru, oherwydd caiff llawer o'r gwasanaethau hyn eu darparu gan sefydliadau'r trydydd sector. Ac felly, maent yn edrych i weld bod gennym gysondeb gwasanaeth. Dim ond i roi enghraifft i chi, os byddwch yn ymddangos yn rhywle fel dioddefwr cam-drin domestig—os byddwch yn ymddangos fore Mercher yng Ngheredigion, byddech chi'n mynd ar yr un llwybr â phe byddech yn ymddangos ar nos Wener yn adran achosion brys a damweiniau Ysbyty'r Waun Ddyfal A gwneud yn siŵr bod gennych y dull gweithredu cyson hwnnw ar draws y darn yw'r cyfeiriad yr ydym yn ei gymryd, a rhaid inni gael cydweithio da gyda'r heddluoedd. Ond mae'r gwaith yn barhaus.
Rydym yn gwybod na chofnodir pob achos o gam-drin. Rydym yn falch iawn bod y ffigurau yn dod i fyny. Dirprwy Lywydd, mae bob amser yn anodd gwybod a yw'r cynnydd mewn ffigurau yn digwydd oherwydd bod cynnydd mewn digwyddiadau neu a yw'n gynnydd yn nifer y bobl sy'n dod ymlaen a bod yn fwy diogel yn y system. Rwy'n amau ei fod yn ychydig o'r ddau mewn rhai ardaloedd. Rydym yn dadansoddi'r ffigurau i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwersi iawn o'r data.