Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Yn wir, cyhoeddodd EE fod Caerdydd yn un o chwe dinas yn y DU a fyddai'r cyntaf i gael rhwydweithiau symudol 5G. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer gwella gwasanaethau, nid yn unig drwy ddyfeisiau personol, a bydd hynny'n drawsnewidiol, ond i gynnig seilwaith integredig ar gyfer adeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau cyhoeddus, darparu buddion nas gwelwyd o'r blaen ar gyfer dinasyddion, busnesau a'r ddinas. Fodd bynnag, i weld gwerth llawn y manteision hyn, bydd lefel uchel o gydweithredu yn angenrheidiol i gysylltu'r dechnoleg â seilwaith ein dinas, ac mae perygl y gallai hyn fod yn rhywfaint o ôl-ystyriaeth. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda rhai fel EE a darparwyr ffonau symudol eraill i sicrhau bod Caerdydd yn dod yn fodel, nid yn unig ar gyfer trefi a dinasoedd ledled Cymru, ond, yn wir, ledled y DU?