Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ie, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Eisoes rwyf wedi cwrdd ag arweinydd cyflwyno'r cwmni yn y cyswllt hwn, a buom yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd i wneud yn siŵr, ochr yn ochr â phobl bargen y ddinas, ein bod yn llwyr yn y gofod hwnnw. Mae David Melding yn llygad ei le—bydd technolegau wedi'u galluogi gan 5G yn gweddnewid y ffordd y mae dyfodol diwydiannau Cymru yn tyfu. Os ydych yn meddwl am y gwahaniaeth a wnaeth y ffôn clyfar i'r ffordd yr ydym yn gweithio, mae'n debyg na fyddai neb ohonom wedi ei ragweld lai na thair blynedd yn ôl. Rydym yn edrych ar yr un math o chwyldro unwaith eto ar gyfer 5G—pethau y byddwch yn gallu eu gwneud ar eich dyfais fechan sydd ychydig y tu hwnt i'ch disgwyliad ar hyn o bryd.
Felly, rydym yn ceisio gwneud tri pheth: rydym yn ceisio elwa o'r dechnoleg ei hun, ond rydym hefyd yn ceisio bod yn gynhyrchwyr y 'widgets'—dyna'r term technegol—sydd yn ei chynhyrchu. Felly, mae gennym y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yma yng Nghaerdydd. Ni wn a yw'r Aelodau yn sylweddoli cymaint o'r dyfeisiau yn eich ffôn clyfar a wneir mewn gwirionedd yng Nghymru; mae yna gyfrannau mawr iawn ohonynt. Felly, rydym yn ceisio bod yn rhan o gadwyn gyflenwi sy'n gwneud y peth yn y lle cyntaf, a bod yn fabwysiadwyr cynnar o'r dechnoleg. Mae EE yn ceisio cyflwyno eu rhaglen gyntaf yn yr hyn y maent yn ei alw y rhannau prysuraf o Gaerdydd—ac mae hynny'n cynnwys y Cynulliad, felly byddwch yn gallu bod yn fabwysiadwyr cynnar yn hynny o beth. Rwy'n edrych ymlaen at hynny.