Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Mae ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', ar hyn o bryd allan ar gyfer ymgynghoriad, yn nodi camau gweithredu â blaenoriaeth sydd ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol i gyfle cyfartal a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, addysg, iechyd, tai a hygyrchedd.