Pobl Anabl

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:18, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr yn mynegi siom am eu hanallu i deithio ar gludiant cyhoeddus gyda ffrindiau, oherwydd mae pob un angen lle i gadair olwyn. Ac, os ydych chi'n lwcus, mae gan y rhan fwyaf o gludiant cyhoeddus un neu ddau le ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol y gallu i deithio gyda'n gilydd, ac eto gwrthodir yr hawl honno i bobl anabl yng Nghymru. Arweinydd y tŷ, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau'r un hawliau i deithio gyda'i gilydd ag y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol?