Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Arweinydd y Tŷ, fel yr ydych yn gwbl ymwybodol, mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i lawer o bobl, yn enwedig pobl sy'n rhedeg busnesau a phobl sy'n byw ar eu pen eu hunain sy'n dibynnu arno fel achubiaeth. Ar 23 Hydref, dywedasoch y byddech yn rhoi manylion inni am y rheini fyddai'n gallu cael band eang cyflym iawn nesaf. Yn wir, dywedasoch, a dyfynnaf,
Rwy'n gobeithio, o fewn y mis nesaf, y byddwn yn gallu rhyddhau'r manylion hynny i Aelodau'r Cynulliad fel y gallant gysylltu â phobl yn eu hetholaeth a rhoi gwybod iddynt lle maent yn y rhaglen.
O ystyried y datganiad penodol hwn, a oes modd ichi nawr roi diweddariad inni a dweud wrthym pan fydd yr wybodaeth hon ar gael er budd y bobl sy'n byw yn fy etholaeth i sydd eisiau gosod band eang cyflym iawn cyn gynted â phosibl?