Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Roedd hynny'n obaith gennym. Roeddwn yn obeithiol y gallwn fod yn gymharol sicr am hynny, ond mewn gwirionedd trodd allan i fod yn fater mwy cymhleth, gyda thrafodaethau rhyngom ni ein hunain ac amrywiol aelodau eraill o fater y ddarpariaeth cymorth gwladwriaethol. Felly mae'r caffael wedi troi i fod yn llawer mwy cymhleth nag y gobeithiwyd yn y lle cyntaf. Rydym yn gobeithio, fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, gallu cael yr wybodaeth honno yn fuan iawn nawr. Gwn ei bod yn swnio braidd fel fy mod i'n dod yn ôl i'r unfan fy hun wrth ddweud hynny, ond rydym yn mawr obeithio cael hynny. Rydym eisiau bod yn wirioneddol benodol yn ei gylch, fel nad ydym yn cael yr un problemau ag o'r blaen gyda phobl yn disgyn allan o'r rhaglen. Rydym eisiau bod yn benodol, felly rwy'n mawr obeithio y bydd gennym yr wybodaeth honno cyn bo hir.
A byddwn yn annog yr Aelod, oherwydd gwn fod cymunedau gennych yn eich ardal chi hefyd a allai ddod at ei gilydd ac o bosib ei gael yn gyflymach—cysylltiad cyflymach rwyf yn ei olygu, yn hytrach nag yn gyflymach o ran amser— gan ddefnyddio cynlluniau talebau. Rydym yn gweithio i weld beth y gallwn ei wneud ochr yn ochr â chynllun talebau gigabit y DU hefyd i wella'r system fel bod gan bobl yng Nghymru ychydig bach mwy o fynediad iddo. Ond byddwn yn annog pobl i fod yn rhagweithiol a chysylltu â ni os oes gennych y cymunedau hynny, neu gymunedau busnes, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i gyfuno'r talebau i weld beth y gallwn ei wneud.