Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â grŵp o fusnesau ffermio teuluol, tua 20 o fusnesau yn gyfan gwbl, yn fferm Trecelyn Isaf yn Eglwyswrw. Tynnwyd fy sylw at rai problemau sydd gan fusnesau ffermio nad oeddwn mewn gwirionedd, i fod yn onest, wedi eu hystyried, os na allant gael mynediad at fand eang o ansawdd uchel iawn. Roedd hynny'n cynnwys methu â gallu defnyddio'r dechnoleg orau i reoleiddio'r defnydd o fewnbynnau—pob math o bethau felly.
Yng ngoleuni'r hyn a ddywedasoch yn y Siambr yn flaenorol ynghylch bod yn barod i gwrdd â phobl â phryderon penodol, rwyf wedi gwahodd y busnesau a gafodd y problemau hynny i ysgrifennu ataf. Os gwnawn ni ddarganfod bod gennym glwstwr daearyddol, a gaf i eich gwahodd chi i ddod i gyfarfod â nhw a gweld pa atebion arloesol y gallem eu rhoi? Oherwydd, fe 'm trawyd yn arbennig gan y manteision posibl i'r amgylchedd. Mae'n amlwg yn dda i'w busnesau os ydynt yn cyfyngu ar eu mewnbynnau, oherwydd mae'n costio llai o arian iddynt, ond hefyd mae manteision posibl i'r amgylchedd i wneud yn siŵr bod llai o berygl o arllwysiadau a phethau felly. Felly rwy'n mawr obeithio, os cawn nifer digonol, y dewch i gwrdd â nhw. Os yw'n un busnes yma ac un busnes acw, efallai yr ysgrifennaf atoch gyda'r manylion.