Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'A yw Cymru'n decach?' yn nodi nad oes digon o sylw'n cael ei roi i gam-drin domestig o hyd. Mae'n ffaith drist bod mwy o droseddau trais domestig yn cael eu cyflawni nag sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu neu eu cofnodi gan yr heddlu. O ystyried hyn, a yw arweinydd y tŷ yn rhannu fy mhryder fod yr arolygiaeth cwnstabliaeth wedi canfod bod dau o luoedd yr heddlu yng Nghymru wedi methu â chofnodi 8,400 o droseddau yn y pedair blynedd diwethaf, gan gynnwys 110 o achosion o gam-drin domestig?