– Senedd Cymru am 5:05 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, os caf i alw ar i bawb adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym.
A wnewch chi adael y Siambr yn dawel os gwelwch yn dda? Galwaf y ddadl fer, i'w chyflwyno gan Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl fer heno. Rwy'n gwneud yn siŵr i weld a yw ffôn John ymlaen neu wedi'i ddiffodd ar gyfer fy nghyfraniad olaf. Mae'n bleser gennyf hefyd roi munud o fy amser i Angela Burns a Bethan ar ddiwedd fy nghyfraniad. Ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y ddadl hon, byddwn yn cael cyflwyniad fideo byr ar ryw bwynt, pan ddaw'r setiau teledu ymlaen. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, gadewch imi ymddiheuro i'r Aelodau am eu cadw oddi wrth eu partïon Nadolig—gwn fod y rhan fwyaf o'r grwpiau'n anelu tuag at eu partïon Nadolig heno.
Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r ddadl go amserol hon, yn enwedig cyn cyfnod y Nadolig pan gawn ein hatgoffa mor aml am slogan enwog yr Ymddiriedolaeth Cŵn fod ci am oes, ac nid am y Nadolig yn unig. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod am ymgyrch cyfraith Lucy, cafodd hon ei hysbrydoli gan darfgi Siarl o'r enw Lucy. Dioddefodd yn sgil y system ffermio cŵn bach a'i defnyddio ar gyfer bridio am flynyddoedd lawer heb unrhyw ystyriaeth i'w hiechyd na'i lles. Y grym ysgogol sy'n sail i gyfraith Lucy yw'r alwad am waharddiad ar unwaith ar werthu cŵn gan siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill sy'n cymryd rhan yn y fasnach hon er mwyn gwneud elw. Masnachwyr yw gwerthwyr trydydd parti, pobl nad ydynt yn bridio'r cŵn a'r cathod bach ac sy'n gweithredu fel rhyngfasnachwyr rhwng y bridwyr a'r cyhoedd sy'n prynu. Cafodd cyfraith Lucy ei hysgogi gan grŵp angerddol o ymgyrchwyr ac mae wedi denu cefnogaeth a sylw pobl ar draws y wlad, gan gynnwys gwleidyddion a llawer o enwogion proffil uchel, megis Ricky Gervais, Brian May a Rachel Riley.
Fel rhywun sydd wrth fy modd â chŵn—mae gennyf ddau gartref ar y ransh ym Mro Morgannwg—mae'n ymgyrch sy'n bendant wedi dal fy sylw, ac rwyf mor falch o fod yn gysylltiedig â hi, a hefyd o fod wedi cyfarfod â Linda Goodman a grŵp C.A.R.I.A.D., sy'n credu mewn gofal a pharch i bob ci yn ddiwahân. Hoffwn roi clod hefyd i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch hon ar lawr gwlad, ac sydd wedi gweithio mor ddiflino i sicrhau bod y mater ar yr agenda i gynifer o bobl. Yn wir, mae'r ddeiseb sydd gerbron Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn brawf o lwyddiant yr ymgyrch, ac mae wedi denu nifer sylweddol iawn o lofnodion. Mae dros 9,000 o bobl wedi ei llofnodi hyd yn hyn, ac roeddem yn ffodus wrth gwrs i gael C.A.R.I.A.D. wedi'i lansio yma yn y Senedd y llynedd.
Yn ddi-os mae cyfraith Lucy wedi cipio calonnau cymaint o bobl ledled y wlad, ac mae'r fideo byr hwn i'r Aelodau yn rhoi cipolwg ar yr ymgyrch wrth inni fynd ati i geisio atal cathod a chŵn bach rhag cael eu defnyddio fel peiriannau bridio yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ar y gair.
Yn anffodus, mae Cymru bellach wedi cael enw fel man lle ceir llawer o'r arferion ffiaidd hyn, gyda nifer sylweddol o ffermydd cŵn bach wedi'u lleoli yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Mewn gwirionedd, yn ardal wledig de-orllewin Cymru y ceir y crynodiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o fridwyr cŵn masnachol, ac mae'n ffaith adnabyddus anffodus fod yr ardal honno wedi bod yn cynhyrchu llif o gŵn bach mewn amodau ofnadwy. Mae bridwyr anghyfrifol yn cyfrannu at ddechrau cythryblus mewn bywyd i lawer o anifeiliaid anwes, lle mae swm yr allbwn yn aml yn cael mwy o flaenoriaeth na lles, ac mae hyn yn arwain at broblemau iechyd difrifol a diffyg cymdeithasoli i gŵn a chathod bach. Mae cŵn yn mynd trwy gyfnod hollbwysig o ran cymdeithasoli rhwng pump a 12 wythnos oed, ac mae llawer yn cael anhawster i ymdopi â bywyd fel anifail anwes os nad ydynt wedi'u cyflwyno i'r profiadau yn y cyfnod hwn, gofyniad sy'n anodd iawn ei gyflawni o fewn amgylchedd siop.
Mae'r farchnad fasnachol mewn cathod bach ychydig yn wahanol i'r fasnach gŵn bach. Mae mwyafrif helaeth y gwerthiannau trydydd parti o gathod bach yn digwydd o siopau anifeiliaid anwes ffisegol ar y stryd fawr. Nid yw bridio cathod, yn wahanol i fridio cŵn, wedi'i reoleiddio, a gall siopau anifeiliaid anwes fod yn amgylchedd amhriodol ar gyfer cathod bach. Nid yw cathod ifanc a werthir mewn siopau anifeiliaid anwes bob amser yn cael digon o le, amgylchedd priodol na chorlan wedi'i chynllunio'n briodol, tymheredd cyfforddus, nac yn cael gofal milfeddygol angenrheidiol a phrofiadau cyfoethogi.
Fel bron bob agwedd arall ar fywyd modern, mae'r rhyngrwyd mewn llawer o ffyrdd wedi hybu'r fasnach erchyll hon, ac wedi dod yn ffenestr siop a ddewisir ar gyfer hysbysebu anifeiliaid anwes ifanc i gael cartref newydd gan ddarpar berchnogion. Yn 2017 yn unig, postiwyd bron 35,000 o hysbysebion ar gyfer cŵn a chathod, ac felly gall masnachwyr heb drwydded, ac felly, heb eu harolygu, werthu cŵn a chathod bach ac anifeiliaid eraill heb unrhyw archwiliadau. Mae ymgyrch cyfraith Lucy wedi bod yn lobïo gwleidyddion o bob lliw yn egnïol i weithredu gwaharddiad, ac mae'n anelu i fynd beth o'r ffordd tuag at ddileu marchnad sy'n dibynnu ar ffermydd cŵn bach, ac yn cael eu cynnal ganddynt, ar draws y DU, Iwerddon ac Ewrop. Byddai gwaharddiad o'r fath yn helpu i ddileu'r niwed corfforol a seicolegol anochel a achosir drwy werthu cŵn a chathod bach i fannau sydd gannoedd o filltiroedd o'r man geni. Byddai gwaharddiad ar werthiannau masnachol trydydd parti yn gyfystyr â gofyniad cyfreithiol mai bridwyr yn unig a allai werthu cŵn bach fel busnes. Ni fyddai'n effeithio ar weithgareddau nad ydynt yn rhai masnachol, gan gynnwys ailgartrefu cŵn a chathod bach drwy elusennau a llochesi, gan na wneir hynny er elw. Ni fyddai dim yn newid yno.
Ac fel Ceidwadwr, roeddwn yn falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn arwain ar hyn wrth gwrs, yn gyntaf ym mis Chwefror gyda'i galwad gyntaf am dystiolaeth, ac yn ail ym mis Awst, pan gyhoeddodd Michael Gove ymgynghoriad ar y gwaharddiad arfaethedig ar werthu cŵn a chathod bach yn fasnachol drwy drydydd parti. Yn amlwg, gyda lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli fel cyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, cyhoeddiad a oedd yn ymwneud â Lloegr yn unig oedd hwn, ac mae'n hanfodol fod Cymru'n dilyn eu hesiampl. Felly, roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo wythnos neu ddwy yn ôl i lansio ymgynghoriad tebyg. Roedd yn gam i'w groesawu ac mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen â hyn, gan fod lles anifeiliaid yn un o'r materion sy'n codi ei ben yn barhaus ym mlychau post yr Aelodau. Yn wir, prin fod cyfnod yn y flwyddyn pan nad oes rhyw broblem sylweddol yn ymwneud â lles anifeiliaid wedi dal dychymyg y cyhoedd, ac fel sefydliad, rydym yn awr mewn man lle gallwn weithredu ar y pryderon hynny a mynd i'r afael â hwy drwy weithredu deddfwriaeth.
Mae'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru yn ei thro, bellach yn arfer amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a phwerau mewn perthynas â deddfwriaeth a rheoliadau yn y maes hwn, ac yn enwedig pan fyddwch yn ei gymharu â lle'r oeddem 20 mlynedd yn ôl. Fel Cynulliad, ac fel Llywodraeth, mae'n hollbwysig fod Cymru'n manteisio ar y dulliau hyn ac yn eu defnyddio'n effeithlon, yn rhagweithiol ac yn ddychmygus i sicrhau bod ein henw da fel cenedl sy'n malio am anifeiliaid yn cael ei ddiogelu. Oherwydd gadewch inni fod yn onest—mae gennym broblem gyda gweithgareddau megis ffermio cŵn bach yma yng Nghymru. Yn wir, mae gwaharddiad ar weithgarwch gwrthun o'r fath yn gwneud synnwyr perffaith o safbwynt diogelu anifeiliaid, a byddai'n welliant amlwg ar y sefyllfa bresennol, gyda llawer mwy o bobl a grwpiau'n gallu gorfodi gwaharddiad—nid awdurdodau lleol yn unig, ond yr RSPCA a'r heddlu hefyd. Mae nifer o grwpiau anifeiliaid, megis yr Ymddiriedolaeth Cŵn a Diogelu Cathod yn cefnogi gwaharddiad, a dylai fod yn llawer haws ac yn llawer rhatach na system drwyddedu wedi'i thagu gan fiwrocratiaeth a diffyg adnoddau.
Mae gwrthwynebwyr y dull hwn o weithredu yn aml yn cyfeirio at y gred y byddai'r gwaharddiad yn gorfodi'r fasnach i fynd yn danddaearol, ond rhaid imi ddweud mai ffolineb yw hynny. Mae'r syniad y byddai darpar berchnogion anifeiliaid anwes cariadus yn mynd ati i chwilota drwy'r we dywyll yn hynod o anhebygol, ac mewn byd cwbl wahanol i'r cymariaethau a wneir ag unigolion sy'n chwilio am ynnau, cyffuriau neu arfau ar y we dywyll ddofn. Yn fy marn i, mae gwaharddiad yn gam cyntaf hanfodol tuag at roi diwedd ar yr arfer hwn o ffermio cŵn neu gathod bach am elw, gyda fawr o sylw, os o gwbl, i'w lles neu eu haddasrwydd i fod yn anifeiliaid anwes i deuluoedd. Mae straen, risg gynyddol o glefyd, arferion bridio gwael a thactegau gwerthu anghyfrifol oll yn gysylltiedig â dulliau gwerthu trydydd parti. A chadarnhawyd wrthyf pa mor bwysig yw rhoi camau o'r fath ar waith ar ymweliad diweddar â Cartref Cŵn Caerdydd. Mae'n gartref cŵn sydd wedi ennill gwobrau wrth gwrs, ond ni allwch help ond cael eich cyffwrdd gan wynebau'r anifeiliaid sydd eisiau cwmnïaeth a chartref cariadus. Yn wir, ar yr ymweliad hwnnw, cefais wybod y ceir oddeutu 9 miliwn o gŵn ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd—mwy na digon i ddiwallu'r galw. Nid oes angen y gweithgarwch masnachol ychwanegol hwn o gwbl.
Ac i gloi, i mi, mae'n hanfodol gweithredu cyfraith Lucy yng Nghymru os ydym yn mynd i oresgyn y niwed a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei chydnabod fel canolbwynt ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n anghywir, ac mae'n straen annerbyniol ar ein cenedl wych o bobl sy'n caru anifeiliaid.
Bydd gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti yn sicrhau bod anifeiliaid anwes annwyl y wlad yn cael y dechrau iawn mewn bywyd ac na fydd modd i bobl sy'n diystyru lles anifeiliaid anwes yn llwyr elwa o'r fasnach ddiflas hon mwyach. Rwy'n talu teyrnged i ymgyrch cyfraith Lucy, dan arweiniad Pup Aid, C.A.R.I.A.D. a'r grŵp gweithredu ar gŵn—Canine Action UK—sydd wedi ymladd mor ddiflino yn yr ymgyrch hon.
Dylai Cymru arwain y ffordd mewn perthynas â lles anifeiliaid. Nid oes dim i'n hatal rhag bod yn genedl fwyaf cyfeillgar y byd tuag at anifeiliaid. Ac fel cam cyntaf yn y crwsâd hwn, rwy'n erfyn ar bob Aelod i gefnogi'r ymgyrch ardderchog a gwerthfawr hon.
Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am bwysigrwydd cyfraith Lucy, sy'n un o'r prif resymau pam y gelwais am gofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, oherwydd gwyddom ein bod am geisio sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn, a chredaf y byddai hon wedi bod yn ffordd glir ymlaen, ond nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau datblygu'r syniad hwnnw. Rwyf wedi cyfarfod â Diogelu Cathod yn ddiweddar, ac maent yn galw am reoleiddio gweithgaredd bridio cathod neu nifer y toreidiau a fegir bob blwyddyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu bridio gyda safonau lles da. Ceir nifer o achosion o glefydau genetig ymhlith rhai cathod pedigri sy'n cael eu bridio, a byddai strategaeth ataliol yma yng Nghymru yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo lles cathod, a byddem wedyn yn hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol yn y maes penodol hwn.
Cefais fy synnu wrth glywed bod rhai siopau anifeiliaid anwes yn annog bridio anghyfrifol oherwydd eu bod yn hysbysebu eu bod yn prynu cathod bach a bod pobl felly'n mynd ati i fridio cathod bach i'w gwerthu am arian. Felly, rwy'n credu bod angen rhoi diwedd ar y mathau hyn o weithgareddau ac mae angen inni gefnogi mudiadau fel Diogelu Cathod ac eraill y mae Andrew R.T. Davies eisoes wedi'u crybwyll yma heddiw, er mwyn cefnogi lles anifeiliaid yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn dros anifeiliaid yma yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Andrew am gyflwyno'r ddadl. Mae ein cyfeillgarwch â chŵn wedi parhau ar draws y milenia ac nid dyma'r ffordd i'w trin. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae'n ofid dweud bod lefelau bridio cŵn bach yn uwch nag erioed, ac rwyf wedi bwrw iddi i greu cysylltiad personol gyda rhai o'r bobl sy'n gwneud hyn. Ac rwyf wedi bod mewn ffermydd cŵn bach, lle bydd y perchennog yn dweud eu bod yn credu eu bod yn gwneud gwaith da. Ac fel rhywun sy'n hoff o anifeiliaid anwes, rwy'n cerdded i mewn yno ac mae fy nghalon yn stopio, oherwydd rydych yn sôn am gŵn mewn cewyll bach iawn a disgwyl iddynt atgenhedlu, atgenhedlu, atgenhedlu'n gyson. Nid yw'n unrhyw fath o fywyd i'r cŵn bach—fel y dywedodd Andrew, nid ydynt yn cymdeithasoli—nid yw'n unrhyw fath o fywyd i'r geist sy'n bridio, nac yn wir i'r cŵn sy'n bridio.
Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffermydd cŵn bach yr ymwelais â hwy. Euthum hefyd dan gêl—gwn nad wyf yn un hawdd i'w chuddio—i un ffiaidd, ac ni allaf ddweud wrthych faint o sioc ac arswyd a deimlais pan euthum yno. Ysguboriau â thyllau ynddynt, yr adfeilion, y sbwriel, y budreddi, y drewdod—roedd yn hollol warthus. Ac mae'r cŵn bach sâl hynny bellach yn mynd i gael eu gwerthu i deulu yn rhywle sy'n mynd i'w prynu heb amau dim.
A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yw mewnforio. Oherwydd rwyf hefyd wedi bod yn bresennol pan agorwyd carafán teithiwr a oedd newydd ddod oddi ar y fferi, ym Mhenfro. Fe'i hagorwyd ac roeddwn yn meddwl, 'O Dduw mawr, beth sydd ar y llawr?' Ac yna sylweddolais ei fod yn ferw o gŵn bach, ac maent yn cael eu mewnforio. A chânt eu mewnforio am eu bod yn gwneud arian a chânt eu mewnforio i guddio pethau eraill sy'n dod i mewn oddi tanynt.
Rhaid inni gael gwared ar yr arfer—mae'n greulon, mae'n annynol. Dylem fod yn well na hynny, ac mae gennym gyfle i fod. Ac yn anad dim, fe af yn ôl at yr hyn a ddywedais ar y dechrau—maent wedi dod, yng nghalon y genedl, yn un o'n ffrindiau gorau. Mae'r henoed yn troi atynt pan fyddant yn unig, mae'r plant yn troi atynt i dyfu i dyfu fyny gyda hwy fel cyfaill chwarae. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi cael profiad o gŵn a chathod. Maent yn anifeiliaid anwes, rydym wedi eu caru, rydym wedi dod â hwy i mewn i'n cartrefi—dylem eu trin fel teulu, nid fel hyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, ac i Bethan Sayed ac Angela Burns am siarad hefyd. Fel y cyfeiriodd Andrew, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, oherwydd credaf fod pob un o'r tri siaradwr yn hollol gywir, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.
Hoffwn egluro y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gwerthiannau trydydd parti o gŵn a chathod bach. Andrew, soniasoch am fridio yn nheitl y ddadl, ond ni fyddai'r rhai sy'n bridio'r anifeiliaid yn werthwyr neu'n fasnachwyr trydydd parti, bridwyr fyddent, ac mae'n bwysig iawn egluro'r pwynt hwnnw. Credaf fod y ffaith bod y teitl ychydig yn anghywir yn tynnu sylw at gymhlethdodau gwirioneddol y mater hwn. 'Cymru i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan werthwyr trydydd parti masnachol'—credaf fod hynny'n swnio'n wych, ond mae cymaint o ffactorau i'w hystyried yn y broses hon. Byddai'n ffôl mynd ar drywydd yr un pennawd hwnnw, oherwydd rwy'n credu y gallwn wneud yn well yma yng Nghymru.
Nid oes dim yn atal symud anifeiliaid anwes a fagwyd yng Nghymru i rannau eraill o'r DU ac i'r gwrthwyneb. Felly, pe baem yn edrych ar un cam yn y gadwyn yn unig, rwy'n credu y byddem yn colli cyfle mewn gwirionedd i sicrhau newid parhaol ac effeithiol iawn. Rhaid inni hefyd sicrhau na pheryglir lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio o ganlyniad i unrhyw newidiadau da eu bwriad. Mae'r broses ymgynghori yn gwbl allweddol i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar ei chanlyniadau drwy drafod manylion hynny heddiw. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ac yn gofyn am dystiolaeth i'n helpu i greu darlun llawn o gadwyn gyflenwi cŵn a chathod bach, lle ceir pryderon o ran lles yn y gadwyn, a hefyd sut y gallai newid polisi neu ddeddfwriaeth ddatrys y pryderon hynny.
Felly, fel rwy'n dweud, nid wyf am ddyfalu i ba gyfeiriad y bydd y broses ymgynghori yn ein harwain. Nid wyf am ddiystyru unrhyw opsiynau sydd ar gael i ni, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n gysylltiedig â gwerthiannau trydydd parti. Rwy'n ymrwymedig i hyn a gallaf ddweud heddiw y caiff yr ymgynghoriad 12 wythnos ei lansio ar 22 Chwefror, i sicrhau pob Aelod mai dyna y byddwn yn ei wneud. Rwy'n annog yr Aelodau o ddifrif i sicrhau bod eu hetholwyr yn cyflwyno eu hymatebion i'r ymgynghoriad.
Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau a mudiadau lles, felly rwy'n meddwl o ddifrif eich bod yn gwthio wrth ddrws agored. Fel y dywedoch chi, Andrew, rydym wedi gweld lobïo trawsbleidiol ar hyn. Roeddwn yn falch iawn o siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Eluned Morgan ynglŷn â chyfraith Lucy yn gynharach eleni. Credaf eich bod yn gywir, gallwn wneud yn well na hyn, mae'r bag post iechyd a lles anifeiliaid yn un sydd bob amser yn llawn i ni fel ACau, ar nifer o bynciau gwahanol. Felly, byddwn yn lansio'r ymgynghoriad, fel rwy'n dweud, ar 22 Chwefror, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno gwaharddiad, gobeithio—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad, ond rwy'n cytuno ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. A gaf i ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi i gyd? Mwynhewch.