1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 8 Ionawr 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth yr wythnos diwethaf ei bod wedi cyfarwyddo'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i gynnal adolygiad o strategaeth economaidd Cymru. Rydych chi wedi defnyddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wrth gwrs, trwy ei raglen PISA, i feincnodi Cymru yn y cynghreiriau addysgol yn fyd-eang. A allwch chi ddweud beth yw safle Cymru o ran CMC y pen o'i chymharu ag aelod wledydd eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd? A ydych chi'n credu y byddem ni'n uwch neu'n is yn y cynghreiriau hynny pe byddem ni'n wlad annibynnol?
Wel, diolchaf i'r Aelod yn gyntaf am gydnabod y gwaith yr ydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei wneud. Mae'n rhan bwysig o'n penderfyniad, yn y cyd-destun yr ydym ni'n ei wynebu, bod Cymru yn parhau i fod yn wlad sy'n edrych y tu hwnt i'n ffiniau ein hunain, yn dysgu gwersi o fannau eraill ac yn cael y cyngor gorau posibl. Bydd rhan o'r cyngor hwnnw yn ein helpu i ymdrin â'r heriau economaidd y mae Cymru yn eu hwynebu fel gwlad. Fy marn i erioed, Llywydd, yw bod y dyfodol economaidd hwnnw yn cael ei amddiffyn yn well drwy aelodaeth o'r Deyrnas Unedig fwy, ac nid wyf i wedi newid fy safbwynt ar hynny.
Felly, o ran y tablau cynghrair, efallai y gallaf i helpu'r Prif Weinidog. Yn ôl Banc y Byd, byddem ni'n drydydd ar hugain ar hyn o bryd, o'r 36 o wledydd sy'n aelodau o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—mae hynny rhwng De Korea a Sbaen. Mae'n debyg y gallech chi ddweud felly ein bod ni ychydig yn is na'r safleoedd dyrchafiad yn ail adran economïau datblygedig y byd. Mae Iwerddon, sy'n wlad o faint tebyg mewn rhan debyg o'r byd yn bumed. Soniasoch yn eich darlith ar sosialaeth yn yr unfed ganrif ar hugain ychydig fisoedd yn ôl am ddefnyddio'r Deyrnas Unedig fel mecanwaith i ailddosbarthu cyfoeth. Wel, rydym ni bron i 20 mlynedd i mewn i'r ganrif honno, ac yng nghyd-destun mecanweithiau, nid yw'n un dda iawn, ydy hi? Yn y ddau ddegawd ers sefydlu'r Cynulliad hwn, rydym ni wedi llithro o 74 y cant o gyfartaledd y DU ar gyfer incwm y pen i 72.5 y cant. Mae hwnnw'n un o'r ffigurau gwaethaf a gofnodwyd gan unrhyw wlad na rhanbarth yn y DU. Roedd Llafur mewn grym am hanner y cyfnod hwnnw yn San Steffan ac mewn grym yma yng Nghymru yn ystod yr holl gyfnod, ac eto mae'r difidend datganoli o safbwynt economaidd wedi bod yn negyddol. Felly, pa esboniad ydych chi'n ei gredu y bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei roi am lwyddiant Iwerddon a methiant cymharol Cymru, ac eithrio'r ffaith ei bod hi'n wlad annibynnol ac nad ydym ni?
Wel, Llywydd, mae Llafur wedi bod mewn grym yn y Cynulliad yn ystod y cyfnod pan fo cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu ymhellach ac yn gyflymach nag yn y Deyrnas Unedig, pan fo diweithdra wedi lleihau ymhellach ac yn gyflymach nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, pan fo anweithgarwch economaidd wedi lleihau ymhellach ac yn gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan fo'r ffactorau cadarnhaol hynny wedi cael eu teimlo yn fwy yng ngorllewin Cymru a Cymoedd y De nag mewn rhannau eraill o Gymru.
Nid oes gen i unrhyw amheuaeth pan ddaw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i wneud y gwaith yr ydym ni wedi gofyn iddo ei wneud y bydd gwersi y byddwn yn gallu eu dysgu gan rannau eraill o Ewrop. Yn sicr, pan fyddan nhw'n ystyried enghraifft Iwerddon, y byddan nhw'n taflu goleuni ar y ffordd y mae Iwerddon wedi gallu denu cwmnïau pencadlys cragen i gael eu lleoli yn Iwerddon mewn ffordd y mae'n ymddangos fel ei bod yn cyfrannu at eu llesiant economaidd, ond yn eu gadael gydag incwm gwario is na'r rhai yma yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at glywed y Prif Weinidog yn gwneud y dadleuon hynny pan fydd yn croesawu'r Gwyddelod i agor eu swyddfa conswl yma ym mis Mehefin. Mae'n wir hefyd, onid yw, bod llwyddiant economaidd yn treiddio i bethau eraill hefyd? Oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yn Iwerddon yw bod tlodi plant yn is nag yng Nghymru a bod disgwyliad oes yn uwch yng Ngweriniaeth Iwerddon, felly mae llwyddiant economaidd yn cyfrannu at fanteision cymdeithasol hefyd.
Wrth gwrs, nid yn unig y mae'n wir bod Cymru yn tanberfformio yn genedlaethol, ond mae'r bwlch economaidd yng Nghymru yn parhau i dyfu. Addawyd strategaeth newydd i ni ar gyfer Cymoedd y De, ond does dim yn digwydd. Mae'r fargen ddinesig ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi methu â chyflwyno prosiect i'r gogledd o goridor yr M4 hyd yma. Fe wnaethoch addo y byddai gwaith ar y parc technoleg yng Nglynebwy yn dechrau ym mis Mawrth y llynedd—nid yw hynny wedi digwydd. Dyma oedd gan hyd yn oed eich cyn-Weinidog y Cymoedd eich hun i'w ddweud yr wythnos diwethaf:
Rydym ni wedi aros yn ddigon hir. Dim mwy o ddatganiadau i'r wasg, dim mwy o areithiau, mae angen gweithredu arnom ni.
Mae hyn wedi bod yn symud yn rhy araf am gyfnod rhy hir. Efallai mai hwn yw eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog cyntaf, Prif Weinidog, ond rydych chi wedi bod yn rhan o Lywodraeth Cymru yn ystod fwy neu lai pob un o'r 20 mlynedd diwethaf. Pam na chafwyd unrhyw gynnydd o safbwynt economaidd i Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw? A allwch chi enwi i ni dri pheth a fydd yn newid nawr ac y byddwn yn gallu barnu eich hanes ar eu sail?
Mae wedi bod yn baradocs o genedlaetholdeb erioed, mae'n ymddangos i mi yn y Siambr hon, Llywydd, eu bod mor ddigalon ynghylch Cymru ac mor awyddus i fod yn rhywle arall yn Ewrop. Ac mae yr Aelod yn gwneud yr un peth eto y prynhawn yma.
Gadewch i mi roi tri pheth iddo i ateb y pwynt olaf a wnaeth am Tech Valleys, ac mae hyn o ganlyniad i'r gwaith a wnaed gan y Llywodraeth hon ac o ganlyniad i'r gwaith a wnaed pan oedd yr aelod dros Flaenau Gwent yn rhan o'r Llywodraeth hon, gan gyfrannu at yr ymdrech hon. Fe wnaethom ddweud o'r cychwyn cyntaf mai cynllun 10 mlynedd oedd hwn ac y byddai'n rhaid i'r rhan gynnar fynd i'r afael â materion tir ac eiddo i ddarparu'r unedau diwydiannol modern sydd eu hangen i ddod â ffyniant pellach i'r rhan honno o Gymru.
Dyma dri pheth. Gofynnodd yr Aelod am dri; efallai yr hoffai wrando arnyn nhw. Sicrhawyd caniatâd cynllunio ar gyfer 22,000 troedfedd sgwâr o unedau cychwynnol yn Lime Avenue yng Nglynebwy—prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a luniwyd yn benodol i ddod ag entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig eu maint sy'n tyfu i leoli yng Nglynebwy—a byddan nhw'n cael eu hadeiladu eleni. Sicrhawyd caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu uwch 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew yng Nglynebwy, a bydd y gwaith adeiladu yn digwydd eleni. Roedd adeilad adfeiliedig 174,000 troedfedd sgwâr yn Rasa yng Nglynebwy ac mae'n cael ei ailwampio ar hyn o bryd i'w ddefnyddio gan y sector preifat i ddod â swyddi a ffyniant i Lynebwy. Dyna dri pheth. Gadewch iddo ein barnu ni ar y rheini, oherwydd mae'r pethau hynny yn digwydd nawr.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar ran y meinciau hyn, a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch croesawu i'ch lle? Edrychaf ymlaen at ein trafodaethau wythnosol, a hoffwn ei gwneud yn eglur y byddaf yn gweithio gyda chi mewn modd adeiladol pryd y gallaf, ond bydd fy nghyd-Aelodau a minnau hefyd yn craffu'n drwyadl ar eich Llywodraeth ar ran pobl Cymru ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am berfformiad eich Llywodraeth dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.
Felly, Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Lloegr ddoe. A oes gan eich Llywodraeth chi gynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Cymru?
Mae gennym ni gynllun, yn wir, Llywydd. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd. 'Cymru Iachach' yw ei enw. Mae'n dda gweld y cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan GIG Lloegr yn benthyg yn uniongyrchol gan y cynllun yr ydym ni eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer Cymru. [Chwerthin.]
Yn amlwg, Prif Weinidog, nid oes gennych chi gynllun 10 mlynedd. Mae cyhoeddi strategaeth 10 mlynedd yn hanfodol fel y gall defnyddwyr GIG Cymru weld map ffordd o ran sut y gellir datblygu eu gwasanaethau yn y dyfodol a'r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl o ran darpariaeth. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cynnydd mwyaf i gyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ers datganoli, bydd y cyllid hwn yn hanfodol i gyflawni gwelliannau. Ni allwn wadu bod ein gwasanaethau yn cael trafferthion o dan Lywodraethau Llafur Cymru olynol. Mae'r hanes yn gwbl eglur. O'i hystyried gyda'i gilydd, mae ein byrddau iechyd yn wynebu diffyg o £360 miliwn. Ni fodlonwyd ein hamseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys ers eu cyflwyno yn 2009. Mae cleifion yn aros yn hwy na blwyddyn am lawdriniaeth hanfodol fel mater o drefn. Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, yn destun mesurau arbennig ac wedi bod ers tair blynedd a hanner. Ac rydym ni wedi gweld gwasanaethau hanfodol yn cau ledled Cymru, fel yr uned gofal arbennig i fabanod yn fy etholaeth fy hun. Gwn eich bod chi'n gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu gwasanaeth iechyd Cymru gan fod llawer o'r heriau hyn wedi codi o dan eich goruchwyliaeth chi, o gofio mai chi oedd y Gweinidog iechyd yn 2013. Mae llawer o'r heriau yn dal i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn ystod eich stiwardiaeth chi o wasanaethau iechyd Cymru. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i fuddsoddi pob un geiniog o'r cyllid canlyniadol y bydd eich Llywodraeth yn ei gael yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru?
Llywydd, rydym ni wrth gwrs yn buddsoddi mwy na'r cyllid canlyniadol a gawsom gan Lywodraeth y DU yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn wir, mae'r arian ychwanegol y byddwn ni'n ei fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn gymesur fwy na'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Dyna pam mai'r cynnydd i fuddsoddiad yn GIG Cymru y llynedd o 3.5 y cant oedd y mwyaf o bob un o bedair gwlad y DU. Rydym ni'n gwneud yn well o ran buddsoddiad. Rydym ni'n gwneud llawer yn well na chynllun Lloegr ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol—soniwyd braidd dim am ofal cymdeithasol yn y cynllun 10 mlynedd a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr yr wythnos hon—ac oherwydd hynny rydym ni wedi gweld cydnerthedd GIG Cymru yn ystod yr hyn yw pythefnos anoddaf y flwyddyn bob amser. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, os caf, Llywydd, i ddiolch unwaith eto i'r bobl hynny sy'n gweithio yn ein GIG, a oedd yn gweithio'n galed dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, gan gadw drysau ein hysbytai yn agored, a sicrhau bod cleifion yn cael sylw da. Mae'n deyrnged iddyn nhw ac i'r GIG yng Nghymru ein bod ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth yma, wedi ei ariannu yn gyhoeddus, ar gael i'r cyhoedd, ac wedi ei lunio i ddiwallu anghenion cleifion Cymru.
Llywydd, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw wersi gan y Prif Weinidog ar fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd ei blaid ef wnaeth dorri cyllid y gwasanaeth iechyd rai blynyddoedd yn ôl, mewn gwirionedd. Yn 2016, cyflwynodd fy mhlaid i gynllun cynhwysfawr ar gyfer newid yn GIG Cymru, gweledigaeth ar gyfer GIG Cymru â mwy o adnoddau, sy'n fwy atebol i gleifion, ac sy'n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau i sefydlu cronfa trawsnewid iechyd gwerth £100 miliwn i gynorthwyo'r broses o foderneiddio gwasanaethau, i sicrhau bod timau argyfwng iechyd meddwl ar gael ddydd a nos ym mhob prif adran achosion brys, i gefnogi arloesedd ym maes gofal iechyd trwy ddarparu £50 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer ymchwil i driniaethau newydd a ffyrdd newydd o wella, ac i roi cynlluniau arbenigol ar waith i sicrhau gwell canlyniadau yn y frwydr yn erbyn pedwar lladdwr mwyaf Cymru—canser, clefyd y galon, dementia a strôc—y mae llawer ohono wedi cael ei ailadrodd yn y cynllun a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth y DU.
Prif Weinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ein cynllun i gyflwyno cronfa drawsnewid gwerth £100 miliwn, ond nid oes gennym ni gynllun gan eich Llywodraeth chi o hyd o ran sut y byddwch chi'n moderneiddio ein gwasanaethau yn y dyfodol i leihau amseroedd aros, i gyflymu amseroedd diagnostig ac i wella ein gwasanaethau iechyd meddwl yn sylweddol. O ystyried y bydd gwasanaethau iechyd a chymdeithasol Cymru yn cael y cynnydd mwyaf mewn cyllid ers datganoli, a wnewch chi gyhoeddi strategaeth ar gyfer GIG Cymru nawr, sy'n amlinellu sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i foderneiddio ein gwasanaethau a darparu'r gofal prydlon, addas i'w ddiben y mae pobl Cymru mor haeddiannol ohono?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddod yn ôl at y pwynt a wnaeth yr Aelod ar y cychwyn, a dweud wrtho bod llawer iawn yn yr hyn a ddywedodd, wrth gwrs, y byddem ni'n cytuno ag ef ar yr ochr hon hefyd. Credaf ei fod yn dir cyffredin yn y rhan fwyaf o'r Siambr hon ein bod ni eisiau gweld GIG yng Nghymru sydd ag adnoddau digonol, sy'n fodern o ran ei ddulliau ac sy'n canolbwyntio ar anghenion cleifion. Byddem ninnau yma yn cyd-fynd â llawer o'r pethau y cychwynnodd Paul Davies yn ei gwestiwn hefyd. Felly, gadewch i ni ddweud bod tir cyffredin rhyngom ni yn ein huchelgais ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, bydd gennym ni wahanol ffyrdd y byddwn ni'n credu y gellir ei gyflawni orau. Mae gennym ni gynllun ar gyfer y GIG yng Nghymru—fe'i cyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin y llynedd. Mae'n nodi'r ffyrdd y byddwn ni'n defnyddio'r adnoddau sydd gennym—yr adnoddau ariannol ac, yn bwysicaf oll, yr adnoddau staffio, neu'r bobl sef yr adnodd pwysicaf sydd gennym, a'r ymrwymiad enfawr sydd gan gleifion yma yng Nghymru i'w GIG—a defnyddio'r holl adnoddau y gallwn, mewn cyfnod anodd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i fod â gwasanaeth iechyd sy'n parhau i fod yn driw i'w egwyddorion sylfaenol ac yn darparu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu sydd, yn fy marn i, yn wyrth fodern o ran y gwelliannau y mae'n eu cyflawni, bob un dydd, i fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Hoffwn eich croesawu chi, Prif Weinidog, i'ch swydd newydd a dymuno pob lwc i chi ynddi.
Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae gordewdra yn broblem gynyddol yng Nghymru ac mae gordewdra ymhlith plant yn fygythiad arbennig. Bu arolwg diweddar gan Cancer Research UK sy'n cysylltu gordewdra yng Nghymru gyda pha mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach rhad. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? A yw'r Prif Weinidog yn teimlo bod pa mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach, a hysbysebu bwyd sothach, yn cael effaith ar ordewdra ymhlith plant?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna ac am yr hyn a ddywedodd yn ei sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, mae gennym ni gamau yr ydym ni eisoes wedi ymrwymo iddynt o ran gordewdra ymhlith plant, wedi eu harwain, i raddau helaeth, gan Iechyd y Cyhoedd Cymru. Ond, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer erbyn hyn i gyfyngu ar hysbysebu bwyd sothach i blant. Rwy'n cofio ysgrifennu dair gwaith fy hun at Jeremy Hunt, pan oedd yn Weinidog iechyd, yn gofyn iddo wneud cynnwys llai o halen a siwgr mewn bwyd a gynhyrchir ymlaen llaw yn orfodol yn hytrach na gwirfoddol.
Fe wnaethom ymdrechu i sicrhau pwerau yn Neddf Cymru 2017 i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd nifer y mannau gwerthu bwyd sothach mewn ardal benodol i ystyriaeth wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer safle manwerthu arall o'r fath, ac ni lwyddwyd i sicrhau'r pwerau hynny ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod ar gael i'r Lywodraeth yn yr Alban.
Felly, mae camau yr ydym ni'n eu cymryd eisoes. Mae mwy o gamau yr hoffem ni eu cymryd, a'n swyddogaeth mewn rhai meysydd yw lobïo Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud y pethau y maen nhw'n gallu eu gwneud a darparu'r dulliau sydd eu hangen arnom i ni fel y gallwn ni wneud mwy i ddiogelu ein plant rhag niwed hirdymor y bydd bod yn ordew a thros eu pwysau yn ei achosi yn eu bywydau.
Ie, roeddwn i'n ymwybodol o rai o'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd yn y gorffennol ynghylch lobïo Llywodraeth y DU, a chredaf ei bod yn syniad da gwneud hynny. Diolchaf i chi am y mentrau yn y gorffennol. Roeddwn i'n ymwybodol hefyd bod y Gweinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyhoeddus yn 2016 ar Lywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar hysbysebu bwyd sothach ar y teledu cyn y trothwy 9 p.m., felly roeddwn i'n ymwybodol o rywfaint o hyn.
Nawr, fel y dywedwch, mae'r rhan fwyaf o'r materion hyn wedi eu cadw, ond mae rhai camau y gall eich Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r epidemig gordewdra. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth wrthi'n ymgynghori ar reoleiddio bwyd sothach yn fwy llym a allai arwain at gyflwyno cyfyngiadau ar ddiodydd meddal mawr iawn, ail-lenwi cwpan am ddim, bargeinion prynu lluosog ac arddangosfeydd bwyd sothach wrth ddesgiau talu archfarchnadoedd. Maen nhw hefyd yn bwriadu gwahardd hysbysebu bwyd nad yw'n iachus mewn mannau a ddefnyddir gan gyfran uchel o blant, fel atyniadau i ymwelwyr, a hefyd ar gludiant cyhoeddus. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael am yr agwedd honno ar hysbysebu bwyd sothach, ac a ydych chi'n bwriadu cymryd camau fel yn yr Alban i atal marchnata bwyd sothach yn uniongyrchol i blant yn y meysydd lle gallwch chi fel Llywodraeth Cymru ddeddfu arnynt?
Diolchaf i'r Aelod am yr awgrymiadau yna. Byddwn yn ymgynghori'n fuan ar ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach ac yn dysgu gwersi gan fannau eraill, ac mae gweld sut y mae gweinyddiaethau eraill yn gallu defnyddio eu pwerau bob amser yn rhan o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Ac mae gennym ni gysylltiadau agos â chydweithwyr yn yr Alban, gan rannu gwybodaeth â nhw am fentrau yr ydym ni'n eu mabwysiadu, ac yn dysgu yn ein tro o'r pethau y maen nhw wedi rhoi cynnig arnynt yn yr Alban hefyd. Ymhlith y llawer o bethau yr ydym ni'n ei wneud eisoes y mae creu cronfa ar y cyd rhwng Iechyd y Cyhoedd Cymru a chyngor chwaraeon Cymru, oherwydd yn ogystal ag atal y ffactorau hynny a all arwain at ordewdra, mae'n bwysig hefyd cael agenda weithredu gadarnhaol y gallwn ei gwneud yn ddeniadol i blant a phobl ifanc sy'n hybu ffyrdd iach o fyw, ac sy'n caniatáu iddyn nhw losgi'r calorïau sy'n arwain fel arall iddyn nhw fod dros eu pwysau.
Felly, y strategaeth ddeublyg honno yw'r ateb, yn ein barn ni. Mae mwy yr ydym ni eisiau ei wneud ym maes hysbysebu lle mae gennym ni'r pwerau i'w wneud yn uniongyrchol, ond, ar yr un pryd, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod trefn gadarnhaol o weithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol y gall plant gymryd rhan ynddynt, i wneud yn siŵr y gallwn eu hamddiffyn rhag y niwed hirdymor y bydd hyn yn ei wneud yn eu bywydau fel arall.
Rwy'n credu ei fod yn ddull doeth ac edrychaf ymlaen at ddatganiadau pellach gan y Llywodraeth ar y materion hyn. Diolch.