Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 8 Ionawr 2019.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma. Darpariaeth gofal cymdeithasol—yn sicr, fel y cyhoeddwyd, mae'r her yn fawr ac yn mynnu blaenoriaeth, ac mae adroddiad Holtham yn gyfraniad gwerthfawr at y ddadl honno.
Nid wyf yn siŵr a wyf wedi sôn yn y gorffennol y bûm i'n feddyg teulu am oddeutu 35 mlynedd, ond rwyf wedi bod yn gyn ymddiriedolwr o Ofal Croesffyrdd i Ofalwyr hefyd, felly, mae gen i brofiad helaeth o weld anghenion dwys fy nghleifion sydd angen gofal cymdeithasol ac mae hyn yn wir o hyd. Nawr, yn amlwg, mae pobl yn byw'n hirach, o ganlyniad i lwyddiant y GIG i raddau helaeth, er gwaethaf y feirniadaeth gan rai. O'r gorau, mae gennym ni ddŵr glân a thai gwell hefyd, ond mae'r cynnydd diweddar mewn disgwyliad oes wedi cynyddu oherwydd y GIG. Fe ddathlodd 250 o bobl eu penblwydd yn 100 oed yn y DU yn 1950, 2,500 yn 1990 a dwy flynedd yn ôl fe ddathlodd 13,700 eu canfed penblwydd. Er hyn, byddai canolbwyntio'n unig ar ariannu'r system gofal cymdeithasol bresennol sydd dan gryn bwysau yn bradychu ein poblogaeth oedrannus hefyd, ac yn ymateb cyfyngedig iawn i'r her yr ydym yn ei hwynebu.
Un o'r rhesymau pam fy mod i'n hoff o'r gwleidydd Llafur, Aneurin Bevan, yw'r ffaith iddo lwyddo i greu gwasanaeth iechyd cenedlaethol cydlynol a oedd yn cyflogi nyrsys, meddygon, ffisiotherapyddion; a oedd yn cynnig contractau; telerau cyflogaeth; hyfforddiant; a phopeth arall, yn wyneb y gybolfa o ddarpariaeth iechyd yn y 1930au, a oedd yn rhannol yn ddarpariaeth gyhoeddus, yn rhannol yn ddarpariaeth breifat neu'n ddarpariaeth elusennol, lle nad oedd neb â chyfrifoldeb lawn a lle'r oedd cymaint o bobl yn cael eu hamddifadu o ofal iechyd cyffredinol. Goresgynnodd y buddiannau enfawr yr oedd gan rhai pobl yn yr hen drefn gan ffurfio'r GIG i fod yn wasanaeth annibynnol cydlynol, er gwaethaf gwrthwynebiad gan feddygon.
Gan symud ymlaen 70 mlynedd ac edrych ar y system gofal cymdeithasol heddiw, mae'n ymddangos ei bod yn debyg i'r hyn oedd y gwasanaeth iechyd yn y 1930au, gyda darpariaeth sy'n rhannol gyhoeddus, yn rhannol breifat, ac yn rhannol elusennol. Mae angen inni greu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn yr un modd ag yr ymatebodd Aneurin Bevan i'r gwrthwynebwyr a oedd yn dweud, 'bydd yn rhy gostus, yn llawer rhy gymhleth, fydd meddygon ddim eisiau colli eu gwaith preifat, bydd awdurdodau lleol yn colli eu swyddogaeth.' Fe arweiniodd ewyllys a phenderfyniad gwleidyddol enfawr at greu gwasanaeth iechyd cwbl genedlaethol, darpariaeth a oedd yn rhad ac am ddim, wedi ei ariannu drwy drethiant cyffredinol, a'r holl fygythiadau i'n hiechyd yn cael eu hwynebu gyda'i gilydd. Mae angen inni efelychu ysbrydoliaeth a gweledigaeth Aneurin Bevan a chreu gwasanaeth gofal gwladol yn y unfed ganrif ar hugain.
Mae siarad dim ond am gyllid yn gyfyngedig ac yn oeraidd oherwydd rydym ni'n ymdrin â phobl yma—pobl fregus, oedrannus ac agored i niwed. Oni ddylem ni wella gofal? Talu staff gofal yn well, eu cyflogi mewn gwasanaeth cenedlaethol gyda thelerau ac amodau, eu hyfforddi a'u cofrestru, yn union fel y GIG. Sefydlu gwasanaeth gofal gwladol sydd â'r un parch â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwasanaeth gofal gwladol sy'n cael ei ariannu drwy drethiant cyffredinol, yn union fel y GIG. Gofal sy'n rhad ac am ddim, yn union fel y GIG. Ni fyddai unrhyw wahaniaeth rhwng gofal nyrsio am ddim ac, yn y dyfodol, gofal personol am ddim. Ar hyn o bryd mae yna wahaniaeth, mae prawf modd ar gyfer gofal personol a rhaid talu am y gofal. Dychmygwch y fath sefyllfa chwyldroadol lle nad oes gwahaniaeth rhwng gofal nyrsio a gofal cymdeithasol. Bydd pobl yn dweud, 'Ond allem ni byth ei fforddio', gan anghofio bod 80 y cant o gost gofal cymdeithasol heddiw yn cael ei dalu gan y Llywodraeth. Mae eisoes yn cael ei ariannu'n gyhoeddus—mae 80 y cant o'r gost wedi cael ei dalu yn barod.
Dychmygwch y gwrthwynebiad pe baech chi'n mynd at eich meddyg teulu heddiw a chlywed y byddai arnoch chi angen gofal iechyd cymhleth, drud ac y byddai angen i chi werthu eich tŷ i'w ariannu. Dychmygwch y gwrthwynebiad, pobl ar y strydoedd yn protestio, cwestiynau amserol yn y Senedd, yn sicr, ond rydym ni'n derbyn yn ddi-gwestiwn fod pobl yn gorfod gwerthu eu cartrefi i ariannu gofal cymdeithasol hirdymor. Ni fyddai ardoll gofal cymdeithasol yn golygu ad-drefnu'r gwasanaeth gofal nac yn eich atal rhag gorfod gwerthu eich cartref i ariannu gofal.
Fy mhwynt olaf—beth am roi diwedd ar edrych ar ofal cymdeithasol fel cost yn unig. Rydym ni wedi cael nifer o areithiau dros y misoedd diwethaf o'r meinciau Llafur am yr economi sylfaenol, ac mae gofal cymdeithasol yno ynghanol yr economi sylfaenol. Mae'r GIG yn ei gydnabod yn ffactor sy'n datblygu'r economi, yn enwedig yng Nghymru wledig, gyda 80,000 o swyddi yn y GIG a nifer tebyg ym maes gofal cymdeithasol. Mae'r GIG yn cael ei gydnabod yn sbardun economaidd pwysig o ran cyflogaeth, y tâl yn uwch na'r cyfartaledd cyflogau mewn ardaloedd lle mae rhagolygon am swyddi yn aml yn llwm. Byddai'r un peth yn wir mewn gwasanaeth gofal gwladol fyddai'n cyflogi gofalwyr mewn gwasanaeth cenedlaethol ledled Cymru, yn gwarantu cyflogaeth a chyflogau teg mewn ardaloedd o Gymru sy'n brin o ddewisiadau cyflogaeth eraill, lle na fyddai gweithwyr gofal ar gontractau dim oriau, cyflog isel a hyfforddiant prin. I gloi, felly, ni ddylai unrhyw drafodaeth am ofal cymdeithasol fod ynghylch y gost yn unig. Mae cyfle yma hefyd i ddatblygu'r economi, a chreu budd economaidd, sydd, o bosib, yn gwrthbwyso'r costau hynny. Diolch yn fawr.