Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 16 Ionawr 2019.
Na, na, rwyf wedi derbyn dau. Dyna'r broblem go iawn, oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ochr y Ceidwadwyr yw bod hyn yn ymwneud â diogelu buddiannau'r Blaid Geidwadol am na wnaiff Theresa May wynebu realiti'r sefyllfa wleidyddol y mae ynddi. Pe bai ganddi unrhyw wyleidd-dra o gwbl, byddai'n gwneud y peth iawn, sef cydnabod y grasfa hanesyddol a gafodd a pharatoi i fynd at y bobl ac ymddiried ynddynt, a chael etholiad cyffredinol.