8. Dadl Plaid Cymru: Brexit Heb Gytundeb

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:21, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Ac mae rhai o'r pryderon ynglŷn â ffermio wedi'u trafod droeon, wrth gwrs, ond yn fwyaf diweddar yn y drafodaeth bwrdd crwn ar ffermio yn y DU, lle y gwyntyllwyd nifer sylweddol o effeithiau mwyaf a mwyaf uniongyrchol Brexit 'dim bargen' posibl. Gwyddom, er enghraifft, y gallai fod goblygiadau enfawr i gynhyrchion anifeiliaid megis cig, wyau a llaeth sy'n cael eu hallforio i'r UE ar hyn o bryd. Ni fyddant ond yn mewnforio o wledydd cymeradwy, a gallai gymryd misoedd i ni gyrraedd statws o'r fath mewn senario 'dim bargen', wrth gwrs. Ac mae'r effaith ar ein sector cig oen yn enwedig yng Nghymru yn peri pryder mawr.

Cyfeiriwyd at y tariffau allforio. Beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Wel, gellid eu gosod ar 60 y cant o fwyd y DU, bwyd a diod sy'n mynd i'r UE, cynyddu tariff allforio i gyfartaledd o 27 y cant ar gyw iâr, 46 y cant ar gig oen, 65 y cant ar gig eidion. Dyma'r ffigurau rydym yn sôn amdanynt, a gallaf weld Mr Hamilton ar ei draed. Ewch chi.