Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 16 Ionawr 2019.
Ond rydym yn fewnforwyr net anferth o'r holl gynhyrchion hyn, ar wahân i gig oen. [Torri ar draws.] Ar wahân i gig oen, lle y mewnforiwn gymaint ag a allforiwn—mae yna gydbwysedd masnach. Rydym yn fewnforwyr net anferth, felly bydd tariffau milain yr UE yn gymwys i'w gwerthiannau hwy i ni lawn cymaint â'n gwerthiannau ni iddynt hwy, felly byddant hwy fwy ar eu colled na ni.