Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rydym yn gwybod bod y gwaith a wnawn, y boddhad a'r mwynhad a gawn ohono, a'r llwyddiannau a gawn drwy ein bywydau gwaith, yn aml yn ffactor allweddol yn ein teimlad cyffredinol o les. Rydym hefyd yn gwybod, hyd yn oed gyda'r effeithiau cadarnhaol hynny, ein bod weithiau o dan bwysau neu'n gweithio gydag eraill sydd o dan bwysau am resymau'n ymwneud â'u gwaith neu eu bywydau personol. Gwn hyn nid yn unig o fy amser yma ond fy amser cyn y lle hwn pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth ac roedd llawer o'r gwahaniaethu ar sail anabledd y bûm yn ymdrin ag ef o ran rhoi cyngor a chynrychiolaeth yn ymwneud mewn gwirionedd â straen sy'n gysylltiedig â gwaith neu gyflogwyr nad oeddent yn ymdrin â ffactorau o'r tu allan i'r gwaith sy'n effeithio ar y gallu i weithio. Felly, mae hon yn thema hir a chyson am yr her a ddaw o fethu cydnabod pwysau iechyd meddwl yn briodol a sut y gall cyflogwyr a chyflogaeth fod yn ffactor pwysig yn ymdeimlad yr unigolyn o hunan-barch a lles. Mae effaith iechyd a lles gweithwyr yn cael ei gydnabod yn fwy eang yn awr fel ffactor allweddol yn nhwf busnesau mewn byd economaidd sy'n gynyddol gystadleuol. Mae'r manteision yn cynnwys cynnydd yn y cynhyrchiant, costau is a lefelau cadw staff ac ymrwymiad gwell.
Wrth gwrs, mae'r materion a'r heriau sy'n ymwneud â lles meddyliol yn y gweithle yn gymhleth, ond mae gan bawb ohonom rôl—y Llywodraeth, cyflogwyr, cyflogeion, cydweithwyr a ffrindiau—fel ffynonellau cymorth, ond hefyd drwy wneud rhan mor fawr o'n bywydau'n ffyniannus a hapus.
O ran cyfraniad y Llywodraeth, mae ein rôl yn un bwysig, sef nodi'r cyfeiriad polisi yn gyffredinol, ond helpu hefyd i weithredu ymyriadau ymarferol. Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth ar draws y Siambr ym mhob plaid, wedi rhoi llawer iawn o bwys ar wella iechyd meddwl a lles, ac o ran y Llywodraeth, mae'n cael lle amlwg yn ein blaenoriaethau cyffredinol, gan fod iechyd meddwl a lles yn un o'r pum thema allweddol yn 'Ffyniant i Bawb', ac rydym wedi nodi ystod o ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ar sut i gyflawni hynny.
Rwy'n arbennig o falch na chyfeiriodd Jack Sargeant at y gwasanaeth iechyd wrth agor y ddadl, fe gyfeiriodd at y contract economaidd a'r ymrwymiadau a wnaed yno ynglŷn â beth rydym ei eisiau gan gyflogwyr, gan gydnabod bod y gweithle'n ffactor allweddol mewn iechyd meddwl, yn hytrach na gweld iechyd meddwl fel mater ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn unig. Oherwydd rydym yn cydnabod y gall cael y driniaeth gywir yn gynnar, codi ymwybyddiaeth o gyflyrau, helpu'n aml i atal effeithiau mwy difrifol a hirdymor. Wrth gwrs, yn 'Cymru Iachach', ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol o ddull system gyfan rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch, ac nid salwch corfforol yn unig ond pob agwedd ar salwch.
Nawr, er ei bod yn hanfodol fod y cyfeiriad strategol cenedlaethol yn gryf ac yn glir, nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i wireddu ein huchelgeisiau'n llawn. Mae angen i hynny gael ei gefnogi gan ystod o bolisïau a rhaglenni ar draws y Llywodraeth er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Rwy'n nodi 'ar draws y Llywodraeth' yn fwriadol—fel rwyf newydd ei ddweud, nid mater ar gyfer y sector iechyd yn unig yw hwn. Mae gennym rôl bwysig fel cyflogwr yn ogystal â darparwr gwasanaethau. Ond fel Llywodraeth, mae hwn yn waith sy'n symud ar draws portffolios er mwyn sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn flaenoriaeth yn y gweithle. Rwyf am fynd i'r afael â rhai meysydd penodol i dynnu sylw at beth o amrywiaeth a maint y gweithgarwch.
Y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth gynllun cyflogadwyedd trawslywodraethol a nodai ein gweledigaeth i weld Cymru'n dod yn economi cyflogaeth uchel, uwch-dechnoleg a chyflogau da. Yn y cynllun hwnnw, rydym wedi ymrwymo i helpu pawb i gyflawni eu potensial drwy gyflogaeth ystyrlon, beth bynnag fo'u gallu, problemau iechyd, cefndir, rhyw neu ethnigrwydd. A rhwng adran yr economi a'r adran iechyd, rydym yn cyllido rhaglen Cymru Iach ar Waith, a ddarperir mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhaglen honno'n anelu i wella iechyd a lles er mwyn helpu pobl i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith. Rwyf wedi cyflwyno nifer o wobrau o dan y rhaglen honno i gyflogwyr bach, canolig a mawr ac mae'n gwneud gwahaniaeth pan fydd cyflogwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen honno gyda'r syniad o ddeall bod gwneud y gwahaniaeth hwnnw'n dda i'w busnes a'u gweithwyr.
Ceir amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n helpu i leihau costau a baich salwch ac absenoldeb, o gymorth un i un, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai a darparu gwybodaeth ac arweiniad ar-lein a dros y ffôn. Ac mae rhai elfennau yn ei gwneud yn ofynnol i roi hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr er mwyn gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau sy'n gysylltiedig â straen a phroblemau iechyd meddwl yn y gweithle. A dyna y byddwn yn ei alw'n gymorth cyntaf iechyd meddwl.
Nawr, rwy'n cydnabod bod Jack Sargeant, wrth gynnig hyn, wedi cyfeirio at ymgyrch Where's Your Head At? Ar hyn o bryd darperir y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl y cyfeiriais ati gan fenter gymdeithasol o'r enw Hyfforddiant mewn Meddwl. Mae ganddynt dros 100 o hyfforddwyr a gymeradwywyd yng Nghymru ac nid yw'r rhaglen yn cael unrhyw gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ond mae fy swyddogion i fod i gyfarfod â Hyfforddiant mewn Meddwl cyn bo hir i drafod eu gwaith ac i ystyried a allai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad posibl y rhaglen. Yn dilyn y ddadl fer hon, rwy'n hapus i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnawn yn y trafodaethau hynny pan fyddant wedi digwydd, yn ogystal â'r pwynt ehangach y soniodd David Melding amdano ynglŷn ag adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd i fod i ddod i law erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Gyda Cymru Iach ar Waith, rwy'n falch fod dros 3,000 o sefydliadau cyflogi yng Nghymru, sy'n cyflogi dros hanner miliwn o bobl, wedi cymryd rhan. Dyna dros draean o'r boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru o fewn y busnesau hynny. A rhaglen ategol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chronfa gymdeithasol Ewrop yw'r gwasanaeth cymorth yn y gwaith. Mae'n darparu mynediad cyflym am ddim at therapi galwedigaethol a luniwyd i helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol i aros mewn gwaith. Ac ers i ni ei lansio yn 2016, mae'r cynllun eisoes wedi darparu ymyriadau therapiwtig i 3,500 o weithwyr, gan gynnwys dros 1,300 o bobl â chyflyrau iechyd meddwl. Mae hynny wedi helpu dros 2,500 o bobl i aros mewn gwaith a 430 arall i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae hefyd wedi helpu bron i 2,000 o fusnesau bach a chanolig i leihau effaith absenoldeb oherwydd salwch ar fusnesau. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd £9.4 miliwn ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i barhau'r gwasanaeth cymorth yn y gwaith hyd at fis Rhagfyr 2022. Dylai hynny ein helpu i ymestyn y gwasanaeth yn sylweddol i gynorthwyo hyd at 12,000 o bobl a 2,500 o fusnesau ychwanegol i helpu i adeiladu a chynnal gweithle iach. Bydd hefyd yn darparu cymorth mwy trwyadl i fentrau, gan gynnwys hyfforddwyr busnes pwrpasol i gynorthwyo eu busnesau bach a chanolig i fwrw ymlaen â'r agenda lles yn eu gweithle.
Nawr, rydym wedi gwneud cynnydd ar fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae rhagor i'w wneud wrth gwrs. Dechreuodd trydydd cyfnod ymgyrch Amser i Newid Cymru fis Ebrill diwethaf gyda chyllid Llywodraeth Cymru o dros £650,000 dros dair blynedd. Y nod canolog o hyd yw herio a newid agweddau negyddol tuag at salwch meddwl. Darparodd cam 2 o Amser i Newid Cymru ganlyniadau calonogol, gyda thystiolaeth o 5 y cant o welliant yn agweddau'r cyhoedd tuag at iechyd meddwl a siaradodd mwy na 150 o hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru â dros 8,000 o bobl am iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn fod dros 100 o gyflogwyr yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi llofnodi adduned Amser i Newid Cymru ar ran dros 260,000 o aelodau o staff.
Gwahaniaeth allweddol yng nghyfnod 3 fydd canolbwyntio ar dargedu cynulleidfaoedd gwrywaidd. Mae cynulleidfaoedd targed eraill yn cynnwys cymunedau gwledig a siaradwyr Cymraeg. Felly, ceir amrywiaeth eang o weithgarwch sy'n gwneud cyfraniad pwysig i les meddyliol yn y gweithle. Ond wrth gwrs, mae angen inni ystyried hynny y tu allan i'r gweithle hefyd, a sut i annog pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw iach ac egnïol i wella eu lles meddyliol yn ogystal â'u hiechyd corfforol. Mae helpu pobl i fanteisio ar weithgareddau a gwasanaethau lles yn agwedd allweddol ar wneud hynny, a chredwn y gallai fod rôl bwysig i bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer helpu pobl i gael cymorth cymunedol nad yw'n glinigol, er mwyn newid y pwyslais o drin salwch i hybu lles gwell, a chynorthwyo pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain, a'r agenda ataliol ehangach. Er bod angen rhagor o dystiolaeth o'i effeithiolrwydd, mae'n helpu i esbonio pam ein bod yn ariannu dau gynllun presgripsiynu cymdeithasol gyda mecanweithiau gwerthuso cadarn a gymeradwywyd gennyf yn y flwyddyn ddiwethaf i ehangu ein sylfaen dystiolaeth ar effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer gwella a chynnal iechyd meddwl da.
Felly, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl. Mae'r heriau'n gymhleth a'r effeithiau ar fywydau pobl yn real. Mae llawer mwy i'w wneud bob amser, ac mae angen i ni, pob un ohonom, ymdrechu i wneud y cyfraniad mwyaf cadarnhaol y gallwn ei wneud, ond ar hyn, rwy'n credu ein bod yn rhannu ymrwymiad ar draws y pleidiau, ac ar draws y wlad, gobeithio.