Part of the debate – Senedd Cymru am 6:39 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno dadl fer ar y pwnc pwysig hwn i'r Cynulliad ac i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Mae hwn yn gyfle defnyddiol i drafod iechyd meddwl yn y gweithle, pwnc sy'n effeithio ar bob un ohonom, nid ein hetholwyr yn unig, ond pob un ohonom, ac mae'r Llywodraeth yn cydnabod yn ein rhaglen lywodraethu ei fod yn flaenoriaeth.