Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 16 Ionawr 2019.
Gwnsler Cyffredinol, yn ystod dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mynegodd nifer o'r Aelodau eu barn gadarn y dylai perthnasoedd iach fod yn rhan o'r cwricwlwm, gyda'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, bellach, yn dweud,
'ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau tuag at berthynas iach yn gynnar yn addysg plentyn... A gorau po gyntaf y ceisiwn ddarparu hyn ar berthynas iach.'
A chredaf y gellir gwneud yr un sylwadau ar bob ffurf ar droseddau casineb. A ydych yn credu, felly, y gallai fod angen deddfwriaeth i sicrhau lle i hyn ar y cwricwlwm, neu a ydych yn credu y bydd canllawiau a pholisi syml yn ddigon i wneud yn hollol siŵr fod hyn yn digwydd?