Troseddau Casineb yn dilyn Brexit

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:55, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae angen inni fod yn ymwybodol bob amser o'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn. Ymddengys i mi mai un o'r materion pwysig yw ein bod yn cadw digon o hyblygrwydd i allu ymateb i agweddau ar droseddau casineb sy'n dod i'r amlwg. Yn anffodus, ymddengys ei fod yn un o'r meysydd hynny sydd i'w gweld yn dod o hyd i allfeydd newydd mewn gwahanol gyd-destunau, fel y nodwyd yng nghwestiwn Leanne Wood. Onid yw'r cyfryngau cymdeithasol wedi darparu llwyfan newydd i unigolion allu mynegi safbwyntiau sy'n wrthun i ni yn y Siambr hon? Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn fy marn i, i ddod o hyd i ffyrdd o gael gwared ar hynny, ac mae addysgu plant a phobl ifanc ar ffyrdd cyfrifol o fod ar-lein yn ogystal â natur perthnasoedd, gan gynnwys perthnasoedd cymunedol a pherthnasoedd personol, yn rhan bwysig o hynny.