Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 16 Ionawr 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hithau a minnau wedi trafod natur rhai o'r posteri a'r cyfathrebiadau yr oedd pleidiau eraill yn eu hyrwyddo yn ystod y refferendwm fel rheswm pam y mae'r newid diwylliant hwn wedi datblygu.
Yn sicr, mae'r gronfa bontio Ewropeaidd yn cael ei defnyddio i wneud y mathau o benderfyniadau ynghylch cyllid buddsoddi y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn, a chredaf fod y rhaglen cydlyniant cymunedol yn arbennig wedi elwa o gael ei hehangu o ganlyniad i hynny. Rydym yn ymwybodol iawn mai un mater y mae angen inni fod yn glir iawn yn ei gylch yw sicrhau bod cydlyniant cymunedol, sydd bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, yn parhau i gael ei gefnogi, ac mae ein rhwydwaith cydlyniant cymunedol rhanbarthol yn ffordd allweddol o wneud hynny.