Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 16 Ionawr 2019.
Yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth fod ymgyrch Brexit wedi normaleiddio rhagfarn ac wedi gwneud pobl hiliol yn fwy eofn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd y poster ofnadwy hwnnw a digwyddiadau cywilyddus megis Gweinidog y DU, Penny Mordaunt, yn dweud celwydd noeth wrth y wlad ar raglen frecwast nad oedd feto gan y DU mewn perthynas â derbyn Twrci'n aelod o'r UE yn cael eu hystyried, yn hollol gywir, yn feflau ar ein gwleidyddiaeth. Felly, mae gennym lawer o wella i'w wneud. Felly, ni waeth beth fydd yn digwydd neu ddim yn digwydd yn y dyfodol agos iawn, a ydych yn gweld unrhyw botensial, Weinidog, yn y gronfa bontio Ewropeaidd, i gefnogi camau i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig pe ceid Brexit 'dim bargen'? Hefyd, ceir pryderon y byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at waethygiad, at godi muriau, yn ein cymunedau, sy'n digwydd eisoes ers yr ymgyrchoedd ofnadwy hynny dan arweiniad pobl hiliol a rhagfarnllyd.