Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb sydd, ar ryw lefel, yn galonogol. Wrth gwrs, rydym wedi trafod o'r blaen yn y Siambr yr anawsterau y gall gwasanaethau iechyd a gofal eu hwynebu os na allwn recriwtio staff o'r UE. Tynnwyd fy sylw yn benodol at y ffaith y bydd hon yn broblem enfawr i'r sector gofal, i'r nyrsys cymwysedig sy'n gweithio, nid mewn ysbytai, ond mewn cartrefi gofal. Rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol a gweddill y Llywodraeth yn parhau gyda'r trafodaethau a amlinellwyd ganddo, gan na fyddem yn dymuno ychwanegu at yr hyn y mae llawer o ddinasyddion yr UE eisoes yn ei ystyried yn broses fiwrocrataidd, ac o bosibl, yn amgylchedd anghyfeillgar—anawsterau ymarferol a fyddai'n deillio o'r methiant i gydnabod cymwysterau yn gyson ar draws ffiniau.