Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae hwn yn faes pwysig iawn i'r proffesiwn iechyd a phroffesiynau eraill hefyd—mae gan filfeddygon, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon bryderon mewn perthynas â'r maes hwn. Mae'r dull o weithredu sy'n cael ei drafod gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â gosod deddfwriaeth yn y Senedd a fydd yn sicrhau, pe ceid Brexit 'dim bargen' er enghraifft, y bydd trefniadau ar waith i weithwyr proffesiynol sy'n cyrraedd y DU ac sy'n gweithredu yma allu sicrhau bod y cymwysterau hynny'n cael eu cydnabod. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod rheoleiddio'r proffesiynau iechyd yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Ac felly rydym yn gweithio gyda hwy mewn perthynas â'r rheini, ond yn sicr, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn i'r gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau perthynol i iechyd a'n gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.