2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 2:51, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 2 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelodau wedi gweld o'r agenda ddiwygiedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod y Llywodraeth wedi disodli'r rhan fwyaf o'i rhaglen fusnes heddiw gyda chyfres o ddatganiadau sy'n amlinellu sut yr ydym ni'n cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a beth fydd effaith hynny. Caiff y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth heddiw, y cyntaf mewn cysylltiad â chynlluniau Trafnidiaeth Cymru i'w gwneud hi'n haws cyrraedd Lerpwl o linell rheilffordd y gogledd? Roedd Trenau Arriva Cymru yn cynllunio i gyflwyno gwasanaethau uniongyrchol i Lerpwl o ogledd Cymru ar hyd Tro Halton ym mis Rhagfyr y llynedd, sydd, wrth gwrs, wedi ei wella er mwyn ymdopi â hyn, ond eto nid oes unrhyw newyddion o gwbl gan Drafnidiaeth Cymru ynghylch pryd y bydd y gwasanaethau hynny yn cael eu hailsefydlu. Yn ôl yn y 1960au yr oedden nhw’n rhedeg y tro diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r rhain yn eithriadol o bwysig i economi'r gogledd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ynglŷn â hynny, ac efallai hefyd y gallai’r datganiad hwnnw gyfeirio at unrhyw ostyngiadau a allai fod ar gael. Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae llawer o'm hetholwyr ac eraill yng Nghymru yn hoffi manteisio ar ostyngiadau Clwb 55—tocynnau dychwelyd rhad i unrhyw le yng Nghymru am £27. Dyna sydd wedi ei gynnig yn draddodiadol yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn gan Drenau Arriva Cymru. A oes cynnig tebyg am ostyngiadau tebyg gan Drafnidiaeth Cymru? Byddai'n dda clywed gan y Llywodraeth ynglŷn â hynny.

Ac yn ail, a gaf i alw am ddatganiad mewn cysylltiad â thrwyddedau torri coed? Efallai i Aelodau sylwi mai ddoe oedd Diwrnod Gwerthfawrogi’r Wiwer Goch ledled y byd, ac rwyf yn hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwch yn gwybod bod y wiwer goch yn rhywogaeth sydd bron o dan fygythiad yma yn y DU, ac un o'r pethau sy'n cyfrannu at eu lleihad yw nifer amhriodol y trwyddedau torri coed sy’n cael eu caniatáu. Yn ôl Deddf Coedwigaeth 1967, ni ellir gwrthod trwyddedau torri coed ar gyfer, ac rwy'n dyfynnu, 'y diben o warchod neu gyfoethogi' fflora neu ffawna. Nawr, mae hynny’n amlwg yn peri pryder i lawer o bobl sy'n gwerthfawrogi gwiwerod coch ac unrhyw fywyd gwyllt arall mewn ardaloedd coediog a choedwigaeth, ac rwy'n credu ei bod hi’n bryd inni unioni hynny yma yng Nghymru. Mae'r cyfle gennym ni, mae’r pwerau gennym ni, rydym ni’n gallu gwneud hynny. Felly, fe hoffwn i weld datganiad yn cael ei gyflwyno. Fe wn i fod datganiad rheoli coetiroedd wedi ei ohirio o heddiw ymlaen, ond rwyf yn credu ei bod hi’n bwysig inni glywed am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â’r pryder hwn sydd gan y rhai sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt ynglŷn â thrwyddedau torri coed yn benodol.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:54, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. O ran cynlluniau Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau trawsffiniol i Lerpwl, gallaf gadarnhau y dylai'r gwelliannau hynny fod ar waith erbyn mis Mai. Rwy'n deall y bu oedi oherwydd newidiadau amserlennu. O ran y gostyngiadau, rwy'n gwybod y bydd rhai gwasanaethau trawsffiniol a fydd yn cynnig tocynnau teithio rhatach. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion ynglŷn â hynny.

O ran trwyddedau torri coed ac effaith hynny ar nifer y gwiwerod coch, bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar goedwigaeth. Fel yr ydych chi'n dweud, mae wedi ei ohirio o heddiw, ond byddwn yn ei gyflwyno cyn gynted â phosib.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Trefnydd, mis diwethaf, datgelwyd bod tair ardal yn Llundain wedi derbyn mwy o arian Loteri Genedlaethol nac unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae ardaloedd San Steffan, Holborn a St Pancras, a De Islington a Finsbury wedi derbyn mwy nag £1.8 biliwn dros y cyfnod hwnnw, ar gyfradd o £4,640 y pen. Mae hyn yn fwy na 10 gwaith yr hyn a dderbyniwyd gan Gymru dros yr un cyfnod. Gyda phoblogaeth o 3.1 miliwn, gwnaeth Gymru dderbyn tua £450 yn unig y pen. Yn ddiweddar, dwi wedi derbyn pryderon gan grwpiau yn ne-orllewin Cymru—cymdeithas y pensiynwyr yng Nghraig-cefn-parc, er enghraifft—sydd wedi gweld eu ceisiadau cymharol fach am arian loteri’n cael eu gwrthod. Mae’r anghydraddoldeb yma mewn cyllid rhwng Llundain a Chymru yn amlwg yn annheg, a hoffwn, felly, ofyn i'r Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant gyflwyno datganiad ar y mater yma o gyllid y loteri yng Nghymru. Byddai’n braf clywed pa gamau y mae’n eu cymryd a thrafodaeth mae’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan a’r Loteri Genedlaethol i sicrhau bod arian ar gyfer prosiectau loteri’n cael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal ar draws y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:56, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am ddod â'r mater hwn i'n sylw, ac fe dderbyniais y sylwadau hynny hefyd gan gymdeithas pensiynwyr Craig-cefn-parc, sydd wedi elwa dros nifer o flynyddoedd ar gyllid i'w galluogi nhw i logi trafnidiaeth i fynd ag aelodau o'r grŵp allan ar deithiau ac ati. Ac rwy'n gwybod o ohebu â'r Gronfa Loteri Fawr eu bod yn cael rhywfaint o gyngor ynghylch sut i addasu eu ceisiadau yn y dyfodol i fodloni'r meini prawf, sydd wedi newid yn ddiweddar, i geisio creu cynlluniau sy'n fwy cynhwysol o gymunedau eraill, cyfagos. Ond byddaf yn sicr yn siarad â'r Dirprwy Weinidog i ystyried y ffordd orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r Gronfa Loteri Fawr.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:57, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan Lywodraeth Cymru enw rhagorol am gyflwyno deddfwriaeth flaengar ar dai yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, nid yw'r gyfraith o ran troi tenantiaid allan heb fai wedi ei newid eto. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad sy'n amlinellu ei pholisi arfaethedig ar droi allan heb fai?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mike, am godi'r mater penodol hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn bod y ffordd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio troi allan heb fai yn achosi llawer iawn o bryder inni, oherwydd bod y cyfnodau rhybudd cymharol fyr hynny yn cynyddu'r perygl y bydd rhai aelwydydd yn wynebu digartrefedd. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried sut y dylid cyflwyno'r mater hwn, ac rwy'n gwybod fod trafodaethau da eisoes wedi eu cynnal gyda sefydliadau megis Shelter, er enghraifft, a'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl. Ond, ochr yn ochr â'r darn hwnnw o waith, rydym ni hefyd yn datblygu cynigion cyffrous iawn sy'n ceisio cael gwared â'r rhwystrau sy'n wynebu rhai pobl wrth iddyn nhw geisio ymuno â'r sector rhentu preifat, gyda'r bwriad o agor y sector i bobl, ond hefyd i'w galluogi nhw i gael tenantiaethau mwy tymor hir. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddigartrefedd yn cyflwyno datganiad ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd maes o law, pan fydd y ffigurau cysgu ar y stryd  wedi eu cyhoeddi ar gyfer eleni.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:58, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i ofyn am gwestiwn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn dilyn y cyhoeddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fis diwethaf ynglŷn â'i strategaeth i ddileu TB buchol? Mae ystadegau yn yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod difa moch daear mewn ardaloedd o Loegr lle bo'r clefyd yn endemig wedi lleihau lefel TB buchol yn sylweddol. Mae hyn yn wahanol i ardaloedd yng Nghymru sydd â lefelau TB uchel, lle bo nifer yr achosion mewn gwartheg yn sefydlog ar y gorau. O gofio bod bron i 10,000 o wartheg wedi eu difa rhwng mis Ionawr a mis Medi y llynedd, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu ei rhaglen i ddileu TB yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod o Loegr, os gwelwch yn dda?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:59, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch chi'n cofio, wrth gwrs, bod arweinydd eich plaid wedi cael y cyfle i sôn am ei bryderon penodol am y mater hwn wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddiweddar iawn, ond gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar ein dull o fynd i'r afael â TB buchol ym mis Ebrill.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i’n bwriadu gofyn am ddatganiad ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth ar gyfiawnder troseddol. Fe glywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mewn cysylltiad â’r tri maes blaenoriaeth, ac, er fy mod i'n croesawu hynny, rwyf yn bryderus bod hynny wedi achub y blaen braidd ar swyddogaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n edrych ar hyn o bryd ar yr holl ddewisiadau sy’n ymwneud â datganoli cyfiawnder troseddol, a’r sylwadau a wnaed gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies, a ddywedodd fod angen inni ddatganoli cyfiawnder troseddol fel y gallwn ni wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru.

Rwyf innau, wrth gwrs, yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â’r carchar mawr ym Mhort Talbot, ond nid yw hynny’n diogelu Cymru rhag pob perygl mewn cysylltiad â chynlluniau eraill sydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o bosib ar gyfer Cymru. Felly, mae angen sicrwydd arnom ni, rwy'n credu, mewn datganiad ar wahân gan Lywodraeth Cymru eich bod yn ymwybodol o hyn ac y gallwch chi fod yn ffyddiog y bydd y comisiwn cyfiawnder yn cael ei ystyried o ddifrif ac y byddwch chi'n ystyried yr holl ddewisiadau o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder troseddol.

Fy ail gais yw am ddiweddariad ynglŷn â rhan Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa bresennol sydd bellach yn deillio o werthu'r darn yna o waith celf Banksy ym Mhort Talbot. Mae cyn-swyddog diogelwch y safle wedi cysylltu â mi, sy’n dweud wrthyf fod y perchennog newydd wedi cysylltu ag ef i ofyn am gyngor ynghylch pwy sy'n gallu symud y darn celf stryd presennol, oherwydd mae yntau wedi dweud wrtho nad yw wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Hoffwn gael eglurhad ynghylch a yw hynny’n wir ai peidio gan nad yw fy mherthynas â’r Dirprwy Weinidog o ran ceisio cael cyfarfod wedi bod mor ffrwythlon ag y byddwn wedi ei hoffi er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu cael trafodaeth gadarnhaol er mwyn deall beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, oherwydd fe wyddom ni fod gan gyngor y celfyddydau, yr amgueddfa, arbenigedd yn y maes hwn. A’r hyn nad wyf yn dymuno ei weld yw ninnau’n ceisio symud y darn yma o waith Banksy a phethau’n syrthio'n ddarnau. Ni fyddai hynny o fudd i neb. Felly, rwy'n eich annog chi i gysylltu â’r perchennog newydd ac i ninnau, rywsut, yr Aelodau Cynulliad, gael y newyddion diweddaraf, neu’r rhai ohonom ni sydd â diddordeb, beth bynnag.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:01, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r ddau fater hynny. O ran y mater cyfiawnder, rydym ni yn deall y gallai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn ystyried, neu'n bwriadu ystyried, safleoedd ar gyfer carchar newydd i ddynion yn y de. Fodd bynnag, rydym ni wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi gwybod iddyn nhw na fyddwn ni'n hwyluso datblygu rhagor o garchardai heb drafodaeth ystyrlon a thrylwyr am ddyfodol yr ystâd fel rhan o ymagwedd llawer mwy cyfannol i bolisi cosb yng Nghymru. A byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd ein cyd-Aelod, Jane Hutt, yn cyfarfod â'r Aelodau hynny sy'n gwneud gwaith cyfatebol iddi, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu at Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran lle mae pethau arni ar ôl hynny.

O ran gwaith Banksy ym Mhort Talbot, rwyf yn ymwybodol, fel yr ydych chi'n dweud, ei fod bellach yn nwylo prynwr preifat, a gobeithir yn fawr iawn, rwy'n credu, y bydd y gwaith yn cael ei arddangos ym Mhort Talbot fel y gall pobl barhau i'w fwynhau. Fel y gwyddoch chi, mae Cadw yn ymdrin â threfniadau diogelwch ar y safle ar hyn o bryd. Byddaf yn siarad â'r Dirprwy Weinidog i weld pa oleuni pellach sydd ganddo ynglŷn â hyn. 

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:03, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â ffordd osgoi'r Drenewydd, os gwelwch yn dda? Yn ddealladwy, mae pobl yn awyddus i wybod pryd fydd traffig yn cael ei defnyddio, ac rwyf innau’n awyddus i wybod beth yw’r cynlluniau swyddogol ar gyfer y seremoni agoriadol. Mae’r prosiect £90 miliwn—ac rwy'n ailadrodd hynny, y prosiect £90 miliwn—wedi bod yn llwyddiant ysggubol ac mae'n ffrwyth buddsoddiad enfawr gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Lafur, yn y canolbarth a'r gorllewin, yn fwy nag a wnaeth unrhyw Lywodraeth arall yn fy nghyfnod i yn cynrychioli’r ardal hon. A byddai'n briodol ac yn addas pe byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y trefniadau ar gyfer y dadorchuddiad mawr. Ac rwy'n gofyn, pan fyddwn yn cael y dadorchuddiad mawr hwn, a allem ni dynnu sylw at y gwaith sydd wedi ei wneud ar brentisiaethau a hyfforddiant—oherwydd dyna’r gwaddol y byddwn yn ei adael i’r bobl ifanc a dyfodol yr ardal honno—a hefyd, sut yr ydym ni'n cysylltu hynny â’r buddsoddiad yr ydym ni'n mynd i’w wneud a’r hyfforddiant a fydd yn digwydd ar bont Dyfi.

Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog trafnidiaeth yn gwybod y bu rhai ymgyrchoedd ynghylch enwi rhannau o'r cynllun, er enghraifft, pontydd, ac yn y blaen, fel ffordd o farchnata'r Drenewydd yn fwy eang. Felly, byddai'n dda iawn clywed mwy am hynny gan wahodd pob plaid i gyfrannu efallai fel eu bod nhw’n gweld mewn gwirionedd bod gennym ni gynllun i fuddsoddi ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y buddsoddiad enfawr hwn yn y canolbarth. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:04, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson. Rwyf yn falch o ddweud ein bod ni'n hyderus y bydd ffordd osgoi Y Drenewydd yn agored i draffig o fewn y ddau fis nesaf, ar yr amod, wrth gwrs, nad oes problem annisgwyl rhwng nawr a phryd hynny. Mae'r prosiect £95 miliwn hwn wedi gwneud cynnydd rhagorol, ac fel y mae Joyce Watson yn dweud yn gwbl briodol, mae'n dangos buddsoddiad gwirioneddol yn y canolbarth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod gwaddol parhaus hynny o ran pwysigrwydd prentisiaethau a hyfforddiant, yn bwysig iawn, ac mae angen inni ystyried sut y byddwn ni'n defnyddio'r buddsoddiad hwnnw mewn pobl yn awr i ddatblygu prosiectau pwysig eraill yn yr ardal.

Rydym ni wedi gofyn i Gyngor Sir Powys a chyngor y dref i ymgynghori â phobl leol ar y cynigion i enwi'r strwythurau hynny ar hyd y ffordd, a phan fydd ychydig o hoff ddewisiadau ar gyfer hynny, bydd rhywfaint o ymgynghori pellach yn ei gylch. O ran manylion penodol y seremoni agoriadol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad cwblhau.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:05, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am un datganiad llafar—nid yn awr, ond cyn pen fawr o dro, gobeithio—ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru? Ddiwrnod ar ddeg yn ôl, roeddwn i’n cadeirio cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, y grŵp Cynulliad, yn y gogledd. Roedd y lle yn orlawn, a gofynnwyd imi gan bobl a ddaeth i’r cyfarfod a fyddwn i’n sôn am y mater hwn eto yn y Senedd, ac, rwy'n dyfynnu:

i geisio cael atebion, oherwydd bod amser yn brin.

Rydym ni'n gwybod, pan gafodd y Gronfa Byw'n Annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU yn Lloegr i awdurdodau lleol, ac yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i’r llywodraethau perthnasol, bod yr Alban wedi lansio Independent Living Fund Scotland i sicrhau bod gan y sawl fydd yn elwa o'r cynllun ddewis a rheolaeth. Penderfynodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, a dywedodd pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru eu bod nhw’n dymuno bod yn rhan hefyd, ond yn lle hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru yr arian i’r awdurdodau lleol. Ym mis Mai y llynedd, dywedwyd wrthym ni mewn datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn dweud bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i’r hyn yr oedden nhw'n ei gael gyda’u taliadau Cronfa Byw’n Annibynnol, gyda dim materion sylweddol wedi eu crybwyll, ond rydym ni'n gwybod, ers hynny, y bu cryn sôn am bobl anabl yn dioddef oherwydd y penderfyniadau a wnaed.

Pwynt penodol y gofynnwyd imi sôn amdano yn y cyfarfod yn Wrecsam gan ystafell orlawn o bobl yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n anabl eu hunain, oedd pwysleisio bod a wnelo hyn â’r gwahaniaeth rhwng aros mewn gwely a chodi o'r gwely, rhwng cael swper a pheidio â chael swper, rhwng bod â rheolaeth a chael eich rheoli. Roedden nhw’n dweud, 'Dydyn nhw ddim yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl, “annibyniaeth”, a'r effaith ar iechyd meddwl a lles', a'u gallu i ryngweithio â'r gymdeithas. Profiad o fyw yw hynny, a fynegwyd eto gan Nathan Davies yn y cyfarfod yn y gogledd, sydd wedi arwain ymgyrch Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar ran y rhai sy'n derbyn y grant—gan gynnwys ef ei hun, ond llawer iawn o bobl eraill hefyd.

Wrth inni nesáu at y pwynt terfynol ar hyn, pan na fydd neb yn cael Grant Byw'n Annibynnol, a wnewch chi fel Llywodraeth, am unwaith, yn yr achos hwn, wneud datganiad llafar ac ateb y cwestiynau y mae pobl anabl ledled Cymru a oedd yn elwa o'r Gronfa Byw’n Annibynnol yn eu gofyn yn gynyddol?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:08, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, mae'n hollbwysig nad yw gallu pobl i fyw'n annibynnol yn cael ei beryglu gan y newidiadau i'r ffordd y mae eu gofal a'u cymorth yn cael eu trefnu yn lleol, ac yn arbennig felly ar gyfer pobl a oedd yn arfer cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi gofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygu'r cynnydd a fu hyd yma o ran trosglwyddo i'r system newydd o gael gofal a chymorth, a bydd hynny'n penderfynu i raddau helaeth pa gamau pellach fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod canlyniad teg i bawb dan sylw. Rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd ag arweinydd yr ymgyrch honno yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod ei bryderon wyneb yn wyneb. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r adolygiad trylwyr, a gynhaliwyd er mwyn sicrhau, lle bu newidiadau i gefnogaeth pobl, eu bod nhw'n briodol ac nad oedden nhw'n cyfaddawdu mewn unrhyw ffordd ar allu'r person hwnnw i fyw'n annibynnol. Caf ar ddeall bod gwaith wedi ei gwblhau ac y caiff yr adolygiad ei rannu gyda'r Pwyllgor Deisebau, ac rwy'n gwybod y bydd cyfleoedd i holi'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'i dull o weithredu maes o law.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:09, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Heb unrhyw amheuaeth, bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o effaith gynyddol cau canghennau banc ar ein cymunedau. Yn hwyr yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Barclays eu bod nhw’n cau canghennau Glynrhedynog a Thonypandy, ac rwy'n gwybod bod canghennau eraill yn cau ledled Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae bancio ar y rhyngrwyd a dirywiad ein canol trefi traddodiadol yn sbarduno’r newidiadau hyn yn rhannol, ond mae llawer o bobl yn ein cymunedau nad ydyn nhw byth yn mynd i ddefnyddio bancio ar-lein, pobl fel y fenyw oedrannus y siaradais â hi yng Nglynrhedynog yr wythnos hon sy'n defnyddio ei thaith i'r banc lleol bob wythnos fel ffordd o adael y tŷ er mwyn osgoi problemau sy'n gysylltiedig ag unigrwydd. Nawr, gall mwyafrif y bancio gael ei wneud drwy Swyddfa'r Post, ond mae hynny’n dibynnu ar ganol bob un o'n trefi yn cynnal eu swyddfeydd post, ac rwy'n ceisio cael sicrwydd uniongyrchol gan Swyddfa'r Post ynghylch gwasanaethau yn y Rhondda, ond dim ond ddoe, daeth i'm sylw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog hawlwyr i beidio â chael budd-daliadau drwy Swyddfa'r Post, gan eu cynghori yn hytrach i ddefnyddio banc, ac mae’r dystiolaeth gennyf i yn y llythyr hwn yr wyf yn barod i’w rannu gydag arweinydd y tŷ. Mae'n dweud,

Ar hyn o bryd, rydym yn talu eich pensiwn i gyfrif cerdyn swyddfa'r post. Rydym yn dymuno talu eich arian i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn lle hynny.

Nawr, o ystyried yr hyn yr wyf newydd ei ddweud ynghylch banciau a phwysigrwydd cynyddol Swyddfa’r Post yn rhai o'n cymunedau mwyaf anghofiedig, a wnewch chi gytuno i edrych ar y cyngor hwn sy’n cael ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a dweud wrthyn nhw am ei newid fel y caiff bod pobl eu hannog i ddefnyddio eu swyddfeydd post ar gyfer bancio a thrafodion budd-daliadau? A wnewch chi hefyd gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth y gallwch chi ei rhoi a pha gymorth ychwanegol y gallwch chi ei ddarparu yn y dyfodol i sicrhau bod rhwydwaith o swyddfeydd post cynaliadwy a hygyrch ar gyfer pawb a phob cymuned?

Hoffwn gael datganiad hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae sgyrsiau â staff yno ynghylch prinder meddygon a nyrsys parhaol a'r effaith y mae hyn yn ei chael yn achosi pryder mawr imi. Rwyf i a'm hetholwyr yn ceisio cael sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor ein hadran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r staff yno yn wirioneddol bryderus bod yr ysbyty yn cael ei gau yn ara' deg, a dywedir wrthyf i fod meddygon yn gadael oherwydd bod gwasanaethau ymgynghorol yn cael eu colli. Rydym ni wedi colli cynifer o wasanaethau o'r ysbyty cymharol newydd hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr agenda ganoli y bu'r Llywodraeth Lafur hon yn ei hyrwyddo. Mae'r agenda hon wedi arwain at y penderfyniad i gael gwared ag ymgynghorwyr o dair adran allweddol: damweiniau ac achosion brys, mamolaeth a phediatreg. Mae pobl yn pryderu y caiff hyd yn oed mwy o wasanaethau eu colli. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sylw i’n pryderon yn y Senedd hon cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:12, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. O ran cau banciau, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yr un mor bryderus â chithau ynglŷn â hynny. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur i ofyn iddyn nhw ystyried bancio yn ei gyfanrwydd mewn modd llawer mwy strategol, a bancio cymunedol yn enwedig. A hefyd, rydym ni'n rhoi llawer iawn o gefnogaeth i'n hundebau credyd ledled Cymru hefyd, oherwydd, er nad ydyn nhw'n gallu disodli banciau, mewn gwirionedd, maen nhw yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyfan o ran sicrhau bod gan bobl gynhwysiant ariannol yn eu cymunedau. Ac, mewn gwirionedd, mae rhai o'r undebau credyd hynny yn cyflwyno syniadau da, sy'n eu gwneud nhw yn llawer mwy tebyg i fanciau o ran bod â cherdyn y gellir ei ddefnyddio er mwyn talu am bethau ac ati. Felly, rwy'n credu bod y mudiad undebau credyd yn sicr yn datblygu yng Nghymru. Ond, wedi dweud hynny, byddwn yn hapus i sicrhau bod y Gweinidog priodol yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw am yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog pobl i ddefnyddio banciau yn hytrach na swyddfeydd post. Fel yr ydych chi'n dweud, i lawer o bobl, ni fydd hynny'n bosib, ond hefyd, mae angen inni sicrhau bod gennym ni rwydwaith o swyddfeydd post bywiog a chynaliadwy ledled Cymru, am sawl rheswm.

Fe wnaf i siarad â'r Gweinidog ynghylch eich pryderon am yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yr ydych chi wedi eu hamlinellu, a gofyn iddo roi'r sicrwydd ichi yr ydych chi'n chwilio amdano.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:14, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, fe godais i fater yn gynharach gyda'r Prif Weinidog ynghylch y carchar mawr ym Maglan a sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fyddai’n cael ei adeiladu ac nad oedd yn ymarferol mwyach, ond hefyd yn y dystiolaeth honno, fe amlygodd y Gweinidog dros garchardai fod Llywodraeth Cymru wedi gwerthu’r tir. Nawr, byddai’r ymgyrch gref a gyflwynwyd gan bobl yn fy etholaeth i angen sicrwydd, oherwydd un o'r dadleuon oedd bod y tir at 'ddibenion diwydiannol'—mai dyna beth yr oedd ar ei gyfer—ac roedd y cyfamod ar y tir yn amlygu hynny. A wnewch chi ofyn i Weinidog yr economi, efallai, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch beth y gwerthwyd y tir ar ei gyfer—hynny yw, y dibenion? A yw’n cyd-fynd ag uchelgeisiau’r ardal fenter ym Mhort Talbot, efallai—i dawelu meddyliau fy etholwyr ynghylch pwy brynodd y tir hwnnw fel y gallwn ni fod yn ffyddiog ein bod yn gwybod beth yw ei ddiben?

O ran ail bwynt sydd eisoes wedi ei godi gan Bethan Sayed am y darn hwnnw o waith Banksy, a gaf i ychwanegu at y pwynt bod y perchennog newydd wedi amlygu’r ffaith ei fod yn dymuno ei symud i ran o Bort Talbot i sicrhau y byddai pobl Port Talbot yn gallu parhau i weld ac elwa ar hynny a dod ag eitemau eraill o waith celf Banksy i lawr? Mae hynny’n dangos yn glir yr angen am adeilad priodol i sicrhau'r math hwnnw o arddangosfa ac oriel. Efallai yr hoffai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, pan fydd yn ymateb i’r cais, dynnu sylw at sefydlu oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes a sut y byddai Port Talbot yn lle delfrydol ar gyfer hynny, oherwydd mae'n ymddangos ein bod ni wedi ein hystyried yn wreiddiol, ac mae hyn yn amlygu'r manteision sydd gan Bort Talbot i'w gynnig i'r cysyniad hwnnw. Byddai sefydlu oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes yn addas iawn ar gyfer yr agenda hon.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:15, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am sôn am hynny ac fe gyflwynwyd eich dadl yn wych. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog, sy'n eistedd wrth eich ymyl, wedi clywed y dadleuon hynny. Fel rwy'n dweud, byddaf yn cael trafodaeth bellach gyda'r Dirprwy Weinidog ar y materion y mae'r ddau Aelod wedi eu codi y prynhawn yma o ran sicrhau bod gwaith celf Banksy yn cael ei ddiogelu mewn ffordd sy'n gynaliadwy ond hefyd, rwy'n gobeithio, mewn ffordd y gall pobl Port Talbot ei fwynhau am amser hir i ddod.

O ran y safle ym Mhort Talbot, rwy'n gwybod fod y contractau wedi eu cyfnewid ar sail amodol ar gyfer datblygu diwydiannol ar 5 erw o'r tir. Rydym ni hefyd yn cynnal trafodaethau gyda chwmni arall o ran cael datblygiad diwydiannol arall ar weddill y tir. Ar hyn o bryd, mae'r trafodaethau hyn yn parhau'n fasnachol ac yn gyfrinachol. Fodd bynnag, cyn gynted ag y bydd y Gweinidog yn gallu dweud mwy, rwy'n gwybod y bydd yn gwneud hynny.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:16, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i eich croesawu i'ch swydd, Trefnydd? A gaf i ofyn yn gyntaf oll ichi ddefnyddio eich dylanwad i gael ateb i e-bost a anfonais at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bum wythnos yn ôl ynghylch ffordd osgoi'r Drenewydd, pan ofynnais yr holl gwestiynau a holodd Joyce Watson heddiw? Byddwn yn ddiolchgar o gael yr ateb hwnnw, oherwydd mae llawer iawn o ddiddordeb yn y prosiect hwn, ac yn sicr, byddai fy etholwyr yn hoffi cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r prosiect gwych hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi hwyluso’r ateb hwnnw. 

Hefyd, a gaf i ofyn a wnewch chi sicrhau ai peidio y caiff datganiadau eu gwneud i’r Cynulliad hwn yn gyntaf, cyn y caiff manylion unrhyw gontractau sylweddol eu rhyddhau i'r wasg? Rwy'n dweud hyn mewn cysylltiad â lot 2 ail gam prosiect Cyflymu Cymru, a ddyfarnwyd ar 11 Ionawr, ond rhyddhawyd datganiad ysgrifenedig ar hyn i'r Aelodau ar 18 Ionawr. A gaf i ofyn eich bod chi’n neilltuo amser fel y gall y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am fand eang roi datganiad llafar i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni graffu'n fanylach ar ail gam y prosiect?

Nid oes unrhyw fanylion wedi eu rhyddhau ynghylch pa anawsterau sydd wedi atal Llywodraeth Cymru rhag dyfarnu’r contract hwn yn gynharach ac nid ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y datganiad ysgrifenedig ychwaith. Nid oes unrhyw fanylion ynghylch pam nad oedd cyfnod pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 y cynllun, sy'n golygu na fu unrhyw ddatblygiad ers bron i flwyddyn, gan adael llawer o fy etholwyr yn y niwl wrth iddyn nhw weld seilwaith band eang yn hongian oddi ar bolion ar ddiwedd eu rhodfeydd ac yn methu â’i ddefnyddio. 

Ceir cyfres o gwestiynau eraill na fyddaf yn eu darllen yn awr, ond fe hoffwn i'r cyfle i ofyn y cwestiynau hynny i'r Gweinidog ar adeg briodol, os gellid caniatáu amser ar gyfer hynny.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:18, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. O ran y mater cyntaf ynglŷn â'r llythyr ynghylch ffordd osgoi'r Drenewydd, fe wnaf i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb cyn gynted â phosib.

Ynghylch y mater band eang, rwy'n gwybod bod y Siambr yn cael ei diweddaru'n aml ar ffurf datganiadau llafar ynglŷn â'r cynnydd gyda band eang, ac mae'n werth cofio wrth gwrs, cyn i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r agenda hon, mai dim ond 45 y cant o gartrefi ac adeiladau a oedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn. Bellach, mae darpariaeth ar gael ar gyfer hyd at 95 y cant ledled Cymru, a gennym ni y mae'r ddarpariaeth orau o ran band eang cyflym iawn o blith y gwledydd datganoledig. Bu hyn yn ymdrech enfawr, gyda buddsoddiad gwerth cyfanswm o £200 miliwn, ond rydym ni yn sylweddoli bod ambell i eiddo o hyd lle nad yw'r ddarpariaeth ar gael, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r eiddo hynny drwy ein gwaith achos. Serch hynny, mae'r gwaith yn mynd rhagddo drwy gam 2 ac rwy'n siŵr y bydd cyfle addas i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn fuan iawn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:19, 22 Ionawr 2019

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y canllawiau rydych chi'n disgwyl i fyrddau iechyd eu dilyn o ran eu dyletswydd i gyfathrebu newidiadau, sy'n gallu bod yn bellgyrhaeddol, i wasanaethau efo'r cyhoedd ac, a dweud y gwir, efo'r holl randdeiliaid perthnasol. Mae diffyg tryloywder bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran newidiadau i'r gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn fy mhryderu i'n fawr. Mi oedd fy etholwyr i'n meddwl bod y gwasanaethau fasgiwlar brys yn saff, ond mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar nad dyna ydy'r achos, ac, a dweud y gwir, y bydd y gwasanaethau brys yn mynd o Fangor.

Dwi wedi deall hefyd fod yna newidiadau pellach ar y gweill i newid gwasanaethau wroleg a gofal strôc yn y gogledd. Ond, eto, mae yna ddiffyg gwybodaeth, sydd yn creu pryder ac ansicrwydd yn lleol. Mae yna sôn am newidiadau, ond does yna ddim sôn am ba safleoedd a allai fod yn colli gwasanaethau. Felly, mae pobl yn dechrau meddwl pob math o bethau, wrth gwrs, ac efallai yn hollol ddiangen.

Felly, mi hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth neu gan y Gweinidog ynglŷn â pha mor dryloyw ydych chi'n disgwyl i'r byrddau iechyd fod pan maen nhw wrthi yn creu newidiadau pellgyrhaeddol i wasanaethau craidd. Diolch. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:21, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Wrth gwrs, byddem yn disgwyl i fyrddau iechyd fod yn agored ac yn dryloyw iawn o ran y ffordd y maen nhw'n mynd ati i roi eu cynlluniau i newid gwasanaethau ar waith. Byddem yn disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal ac ati. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y profiadau yr ydych chi wedi eu cael gyda newidiadau posibl yn eich etholaeth chi. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch gyda rhai manylion ynghylch beth yn union y byddai'n ei ddisgwyl gan fyrddau iechyd, ond yr hyn y dylai fod, yn sicr, yw cyfathrebu da yn seiliedig ar fod yn agored a newidiadau mewn modd cydgynhyrchiol.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:22, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Y llynedd, dechreuodd un o'm hetholwyr ddeiseb yn galw ar i fenywod yng Nghymru allu cael gafael ar wasanaeth gwell ar gyfer menywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae hyn ar y cyd â'r ymgyrch genedlaethol Make Menopause Matter, sy'n canolbwyntio ar lawer o'r anawsterau y mae menywod, sydd yn aml â symptomau difrifol, yn eu hwynebu yn y gweithle ac yn gymdeithasol, ac effaith hyn ar ansawdd eu bywydau. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y mae un o ddim ond dau glinig menopos arbenigol yng Nghymru, a byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i fenywod, a beth sy'n cael ei wneud i wella'r cymorth a ddarperir gan feddygon teulu, fferyllwyr ac ymarferwyr iechyd eraill.

Yn ail, hoffwn gael datganiad ar roi mêr esgyrn yng Nghymru. Mae ymgyrch ar waith ar hyn o bryd i alluogi fy etholwr Marley Nicholls, sy'n 6 oed, o'r Betws, i gael trawsblaniad mêr esgyrn i achub ei fywyd. Mae Marley yn dioddef o gyflwr gwaed anghyffredin ond nid oes rhoddwr cyfatebol wedi ei ganfod hyd yn hyn. Hyd yma, mae dros 10,000 o bobl wedi ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn o ganlyniad i'r ymgyrch sy'n cael ei chynnal gan ffrindiau a theulu Marley, ac mae cyfraddau rhoi organau yn genedlaethol yn isel iawn. Hoffwn gael diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl i ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:23, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. O ran y mater cyntaf a godwyd gennych chi am y cymorth i fenywod sy'n mynd drwy'r menopos, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn, ac rwy'n falch o roi gwybod i chi bod swyddogion eisoes yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth iddo ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth iechyd rhywiol ar gyfer 2018. Bydd hwnnw'n nodi llwybr gofal menopos i'w ddefnyddio gan yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru. A bydd hwn—rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod nesaf bwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, sydd i'w gynnal yn fuan iawn.

Wrth gwrs, fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd rhan meddygon teulu yn hyn, a fferyllwyr, oherwydd y man cychwyn, mewn gwirionedd, i lawer o fenywod ar gyfer gofal menopos yw drwy'r meddyg teulu. Felly, yn unol ag anghenion clinigol unigol a chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gallai menywod gael eu hatgyfeirio wedyn gan y meddyg teulu at wasanaethau eraill, ond mae'n bwysig bod meddygon teulu yn deall y broblem a phwysigrwydd y mater, a sut y gall y menopos effeithio ar fenywod ym mhob agwedd ar eu bywydau. Fe wnaethoch chi sôn am y gweithle, ac wrth gwrs mae'n mynd ymlaen i bob agwedd arall.

O ran rhoi mêr esgyrn, os oes angen trawsblaniad bôn-gelloedd ar unigolyn yng Nghymru, yna gall Gwasanaeth Gwaed Cymru chwilio ar gofrestrfeydd ledled y byd ar hyn o bryd i nodi rhoddwyr posibl. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, yn amlwg mae angen o hyd i fwy o bobl ddod ymlaen i gynnig rhoi, ac un o'r ffyrdd yr ydym ni'n ceisio cynyddu'r niferoedd yw drwy'r gwaith y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ei wneud. Felly, maen nhw'n mynd ati i annog rhoddwyr i ymuno â'r panel, ac yn gofyn yn benodol i'r rhoddwyr hynny sydd rhwng 17 a 30 oed a fydden nhw'n hoffi cofrestru, oherwydd hwn yn sicr yw'r grŵp sy'n cynnig y siawns orau o oroesi i gleifion trawsblaniad. Felly, byddem yn annog pawb i ystyried pa un a fyddent yn gallu rhoi rhodd a fyddai'n newid bywyd ac yn achub bywyd unigolyn arall.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:25, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn i'r trefnydd am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf ynghylch y newyddion trasig posibl am y peldroediwr 28 mlwydd oed o'r Ariannin, Emiliano Sala, a oedd yng Nghymru ddydd Sadwrn i gyhoeddi llofnodi ei gontract am y swm uchaf yn hanes clwb Dinas Caerdydd. Ar ôl dychwelyd i Nantes, lle'r oedd yn arfer chwarae, cadarnhawyd ei fod ar awyren a oedd yn teithio o Nantes i Gaerdydd neithiwr, a gollodd gysylltiad â'r gwasanaeth rheoli traffig awyr. Mae pum awyren a dau gwch wedi bod allan yn chwilio amdano o amgylch Ynysoedd y Sianel, ond hyd yma nid oes unrhyw newyddion. Yn amlwg, hoffem ni i gyd estyn ein dymuniadau i'r teulu ac i bawb dan sylw. Ond a oes gan y trefnydd unrhyw newyddion ynghylch hyn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfleusterau a allai helpu yn yr ymdrech i chwilio amdano? Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?

Yfory, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y gyfraith, byddaf yn croesawu Rick Rawlings, un o'r comisiynwyr, a'r ysgrifenyddiaeth i ystafell giniawa 1 am 12.45 p.m., ar gyfer unrhyw Aelodau sydd â diddordeb mewn clywed safbwynt y comisiwn ar sut y mae ei waith yn mynd rhagddo. Rwy'n sylwi, er hyn, o'r sylwadau yn gynharach—. A gaf i gael fy sicrhau yn gyntaf, yn hytrach na bod yn fenter gan y Prif Weinidog blaenorol yn unig, bod gan y comisiwn hwn gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog newydd?

Yn ail, pwysleisiodd y Prif Weinidog, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi datganoli mewn tri maes: cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf ac, o leiaf mewn rhai ffyrdd, materion yn ymwneud â throseddwyr sy'n ferched. A yw safbwynt polisi Llywodraeth Cymru yn esblygu, neu a oedd hynny wedi'i gynnwys yng nghylch gwaith a chylch gorchwyl y comisiwn? Rhoi pwyslais ar ddatganoli meysydd lle'r ydym eisoes yn gwneud yn gymharol dda o fewn cyfiawnder troseddol: ai dyna'r ffordd iawn o wneud hynny, yn hytrach nag ystyried bod meysydd lle ceir problemau penodol efallai yn rhai i'w datganoli ar fwy o frys?

Yn olaf yn y maes hwn, a yw'r comisiwn a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddigon agos â'r gweithgor cyfiawnder yng Nghymru a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU? Rwy'n gweld bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi rhannu data ymchwil ar gyfer yr adroddiad rhagorol gan Dr Robert Jones a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, gan gynnwys cyfeiriadau pob troseddwr unigol a chroes-gyfeirio'r rheini. Mae'n ddarn sylweddol iawn o waith, ac mae'r comisiwn hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol inni gael sylfaen ymchwil er mwyn ystyried y mater hwn yn briodol, a hoffwn i gael fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos i gefnogi hynny.  

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:28, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. O ran y mater cyntaf a godwyd gennych, am yr awyren a gollodd gyswllt neithiwr, yn amlwg, fel yr ydych yn ei ddweud, mae ein meddyliau ni i gyd yn sicr gyda phawb sy'n ymwneud â hyn, ac sydd wedi'u heffeithio gan hyn. Gallaf gadarnhau bod maes awyr Caerdydd mewn cysylltiad agos â'r gangen ymchwilio i ddamweiniau awyr, a bydd yn parhau i gynorthwyo gyda'i hymchwiliadau mewn unrhyw ffordd bosibl, ond awyrennau o Ffrainc i raddau helaeth sy'n arwain y chwilio yn yr achos hwn.

O ran eich cwestiynau am gyfiawnder, gallaf gadarnhau bod ein Prif Weinidog newydd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n llwyr y diddordeb yn y comisiwn a'r ymrwymiad iddo. Mewn gwirionedd, cyfarfu'r Prif Weinidog â'r cadeirydd yr wythnos diwethaf i drafod y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol. Gwn y bydd cyfleoedd eto i drafod y materion hyn maes o law.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan Mike Hedges bethau diddorol i'w dweud bob amser. Gwrandewais yn ofalus ar eich cwestiwn i'r Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau yn gynharach, Mike, pan wnaethoch chi awgrymu y gellid lleddfu'r tagfeydd ar yr M4 drwy ddefnyddio'r A465 a'r A40, cysylltiad Blaenau'r Cymoedd, ar gyfer traffig sy'n dod i Gymru ac sy'n mynd i dde-orllewin Cymru o ganolbarth Lloegr. Nid yw hynny'n syniad gwael o gwbl. Tybed a allem ni gael ychydig o ddatganiadau, mewn gwirionedd, gan Lywodraeth Cymru. Pe byddai'r awgrym hwnnw yn mynd rhagddo, byddai ganddo oblygiadau ar gyfer dau fater sy'n agos i'm calon yn fy etholaeth i: yn gyntaf oll, mynediad i gerddwyr i Gastell Rhaglan, ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Dirprwy Weinidog diwylliant sawl gwaith o'r blaen. Mae angen taer am bont droed yno, felly tybed a allem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog—diweddariad ar broblemau mynediad at henebion Cymru yn gyffredinol, ond yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ffyrdd prysur yn effeithio ar y mynediad hwnnw. Ac, yn ail, mater arall sy'n agos i'm calon—byddwch chi'n dod i arfer â hyn, Trefnydd, rwyf yn aml yn codi'r materion hyn; codais i nhw gyda'ch rhagflaenydd, a gallaf weld y Prif Weinidog yn gwenu fy mod wedi eu codi unwaith eto—yn ail, mae wyneb concrit y ffordd ar yr A40 rhwng Rhaglan a'r Fenni wedi treulio. Rwy'n gwybod y byddai hwnnw'n gostus i'w adnewyddu, ond, os ydym ni'n mynd i fynd ar drywydd cynyddu traffig ar y rhan honno o'r ffordd, rwy'n credu bod wyneb y ffordd ar hyn o bryd yn anghynaladwy. Felly, os na fydd yr M4 yn mynd rhagddi, ac mae'n ymddangos bod hynny'n dod yn fwyfwy tebygol, yna efallai y gallem ni gael datganiadau gan Lywodraeth Cymru ar ble y gellid defnyddio adnoddau i wella agweddau ar fywydau pobl ar draws fy etholaeth ac ymhellach i ffwrdd.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:30, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau yna. Dylwn fod yn glir iawn nad yw'r Prif Weinidog wedi gweld adroddiad yr arolygydd, felly nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto. Rydym yn disgwyl i'r Gorchmynion gael eu cyflwyno i'r Prif Weinidog cyn bo hir er mwyn iddo eu hystyried. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn buddsoddi llawer iawn yn wynebau ein ffyrdd, a byddwch chi wedi bod yn ymwybodol o'r cyhoeddiadau a wnaed o ran buddsoddi yn hynny o beth. Ond rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ysgrifennu atoch chi i awgrymu beth, efallai, fyddai'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'ch diddordeb arbennig, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich pwyntiau ynghylch pwysigrwydd mynediad at ein henebion yng Nghymru.