7. Dadl Plaid Cymru: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:56, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn fy nghyfraniad y prynhawn yma rwyf am dynnu sylw at dair agwedd benodol ar effeithiau'r system bresennol ar y rhai sydd ar hyn o bryd yng ngharchar a chanlyniadau hynny. Rwyf am edrych yn gyntaf ar y gwasanaethau a ddarperir—neu na ddarperir—ar gyfer carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Bydd aelodau o'r Siambr wedi gweld adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, 'Cymraeg yn y carchar'. Roedd yn ddarn trylwyr iawn o waith, ac roedd yn peri pryder mawr. Gallodd dynnu sylw at y ffaith nad yw'r ddarpariaeth yn gyson. Canfu hyd yn oed fod yna enghreifftiau o garcharorion yn cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg â'u teuluoedd, ac rwyf wedi dod ar draws sefyllfaoedd yn bersonol lle dywedwyd wrth famau am beidio â siarad Cymraeg â'u plant sy'n siarad Cymraeg pan fydd y plant hynny mor ifanc fel nad ydynt yn siarad Saesneg am eu bod mor fach. Mae hynny'n amlwg yn dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y carcharorion hynny. Mae'n bwysicach yn wir, yn enwedig, fel y noda'r Comisiynydd, am fod gan gynifer o'n carcharorion anawsterau dysgu, efallai fod ganddynt lefelau addysgol isel, efallai fod ganddynt anableddau, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl.

Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r adroddiad hwn fod y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg yn annigonol ac yn anghyson, ac o ran carcharorion benywaidd, sydd wedi'u carcharu y tu allan i Gymru, bob un ohonynt, yn aml iawn nid yw'r ddarpariaeth ar gael o gwbl. Rhaid mynd i'r afael â hyn, ac wrth gwrs, cyfrifoldeb cyfreithiol y Gweinidog cyfiawnder a Llywodraeth y DU yw mynd i'r afael â hyn. Mae'n amlwg i mi o adroddiad y comisiynydd eu bod yn methu gwneud hynny.

Lywydd, faint bynnag o unigolion sy'n gweithio yn y system—ac mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at rai arferion da, mae'n rhaid dweud—sy'n ceisio diwallu anghenion y carcharorion hyn, nid wyf yn credu eu bod byth yn mynd i'w wneud, ac yn hytrach na cheisio trwsio system sydd wedi torri o dan reolaeth San Steffan, mae hon yn ddadl gref i mi fod angen i'r system cyfiawnder troseddol gael ei rheoli gan y gwleidyddion a etholir gan bobl sy'n siarad Cymraeg a'u teuluoedd, a ni yw'r rheini wrth gwrs. Mae angen datganoli'r system hon.

Rwyf am adeiladu ychydig ar y pwyntiau a wnaed eisoes gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, am fenywod sy'n garcharorion. Credaf yn gyntaf fod angen inni roi sylw i'r cwestiwn ynglŷn â pham y caiff menywod eu carcharu fel mater o drefn i'r fath raddau am droseddau y bydd dynion yn cael cosbau cymunedol amdanynt. Credaf ein bod yn gwybod yr ateb i hynny, a chredaf y gwyddom fod ymddygiad troseddol yn cael ei weld gan lawer yn fwy tramgwyddus pan gaiff ei wneud gan fenywod. Mae'n seiliedig ar wahaniaethu ar sail rhyw, ar dybiaethau rhywiaethol ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol gan fenywod. Wyddoch chi, 'Bechgyn yw bechgyn', maent yn ymladd, maent yn cael cosb gymunedol. Mae merched yn ymladd, 'Mae hynny'n warthus; mae'n gwbl gamweddus', ac maent yn debygol o gael dedfryd o garchar. Ac wrth inni ymdrin â'r problemau sy'n ymwneud â'r modd y caiff menywod eu trin yn y system, rhaid inni ei seilio ar y ddealltwriaeth honno o wahaniaethu ar sail rhyw.

Rydym yn gwybod bod yna 227 o fenywod o Gymru ym mis Medi 2017—y ffigurau diweddaraf y gallwn eu cael—yn bwrw dedfryd mewn carchardai yn Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn yn famau. Felly, dyna o leiaf 200 o deuluoedd Cymru sydd ymhell iawn oddi wrth eu mamau, a gwyddom y gall effeithiau carcharu menywod ar blant a theuluoedd fod yn ddinistriol.

Gwyddom hefyd nad yw'n gweithio, a bod menywod yn mynd yn ôl i garchar, yn aml iawn am beidio â thalu dirwyon, a rhaid rhoi diwedd ar hyn. Mae angen inni edrych ac archwilio agweddau o fewn y system sy'n arwain at garcharu menywod pan na wneir hynny yn achos dynion. Mae arnom angen cyfleusterau ar gyfer carcharorion sy'n fenywod yma yng Nghymru, yn agos at eu teuluoedd. Gwyddom fod hynny'n gwbl hanfodol o ran y tebygolrwydd o allu eu hadsefydlu a'u hailintegreiddio'n llwyddiannus yn y gymdeithas. Credaf fod angen inni drafod a oes arnom angen uned ddiogel fach—a oes arnom angen carchar bach i fenywod yma yng Nghymru ar gyfer y troseddwyr na ellir eu cynnal yn y gymuned. Ond ni ddylai mwyafrif helaeth ein carcharorion sy'n fenywod fod yn y carchar o gwbl, a dylid eu helpu, nid eu cosbi.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn siarad yn fyr am y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi trafod hyn yn y Siambr ar sawl achlysur. Rwyf am siarad o berspectif personol iawn, oherwydd bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cofio adeg pan oeddwn yn weithredol yn y maes, yn rhedeg prosiect cyfiawnder ieuenctid ar ran Barnardo's. Byddai'r holl bobl ifanc y gweithiem gyda hwy—a dynion ifanc oeddent yn bennaf—wedi cael eu carcharu pe na baent wedi dod atom ni. Ac un o'r pethau rwyf am roi diwedd arno yw'r syniad fod cosbau cymunedol yn rhai hawdd. Nid yw hynny'n wir. Ar nifer o achlysuron pan oeddwn yn gweithio gyda dynion ifanc, er enghraifft, yn dod â hwy wyneb yn wyneb â dioddefwyr eu troseddau, byddent yn gofyn i mi ddweud eu bod yn torri'r amodau a'u hanfon i'r carchar, oherwydd gwyddent sut i ymdopi â charchar. Roedd carchar yn gymharol hawdd. Roedd wynebu'r hyn a wnaethant o'i le a gwneud iawn amdano lawer iawn yn fwy heriol.

Nawr, roedd hwnnw'n brosiect a ymchwiliwyd yn drwyadl iawn, wedi'i ariannu gan Barnardo's a'i ymchwilio gan brifysgolion. Un o bob 10 o'r bobl ifanc hynny a aildroseddodd o gwbl, ac roedd aildroseddau'r rhai a wnaeth lawer yn llai difrifol. Roedd yn ddrud, ond roedd yn llawer rhatach na'u carcharu. Lywydd, rydym wedi gwybod ers 25 mlynedd fod troseddwyr ifanc yn droseddwyr ifanc fel arfer am eu bod yn bobl ifanc mewn trafferthion, ac unwaith eto mae angen inni ymyrryd yn eu bywydau mewn ffordd sy'n eu cefnogi. Oherwydd gwn o brofiad personol—a gallaf weld wynebau'r bobl ifanc hynny heddiw—os ydym yn ymyrryd mewn modd sy'n eu cefnogi, nid yn unig y gallwn newid eu bywydau er gwell, ond gallwn eu hatal rhag aildroseddu. Mae arnom angen dull Cymreig o ymdrin â'n pobl ifanc cythryblus iawn, ac unwaith eto, mae angen inni wneud y penderfyniadau hynny yma.